Sir Benfro: Gwahardd cynghorydd am dorri cod ymddygiad

30/07/2026
Alan Dennison

Mae cynghorydd yn Sir Benfro wedi’i wahardd o’i swydd tan ddiwedd mis Tachwedd am dorri cod ymddygiad yr awdurdod.

Roedd hynny wedi iddo ymdrin â mater cynllunio ar ran ffrind yr oedd wedi bod ar ei wyliau gydag ef ym Mecsico.

Daeth pwyllgor safonau Cyngor Sir Penfro i’r casgliad ym mis Mai fod y Cynghorydd Alan Dennison, sy’n cynrychioli Gogledd Aberdaugleddau, wedi torri’r cod ymddygiad i aelodau.

Cafodd ei wahardd o’i swydd am bedwar mis.

Ond roedd y Cynghorydd Dennison yn gallu parhau yn ei rôl wrth i Banel Dyfarnu Cymru ystyried ei apêl yn erbyn y penderfyniad.

Daeth y broses honno i ben ar 28 Gorffennaf ar ôl i bob un o’i saith sail dros apelio fethu.

Daeth y pwyllgor i’r casgliad ym mis Mai fod y Cynghorydd Dennison wedi methu â datgan buddiannau personol oedd yn rhagfarnu ei benderfyniad.

Roedd y Cynghorydd Dennison wedi rhoi benthyg arian i’r ymgeisydd, Lee Bridges, ac wedi bod ar ei wyliau gydag ef ym Mecsico.

Roedd Lee Bridges wedi gwneud cais i Gyngor Sir Penfro am ganiatâd ôl-weithredol ar gyfer gwaith peirianyddol i greu ardal fwyta awyr agored yn Aberdaugleddau.

Cafodd y cais aflwyddiannus ei gyflwyno i banel dirprwyo cynllunio’r cyngor sir ym mis Chwefror 2025.

Roedd swyddogion cynllunio i fod i benderfynu ar y cais.

Ond gofynnodd y Cynghorydd Dennison, ar ran y Cynghorydd lleol Terry Davies, i gynghorwyr benderfynu arno. 

Doedd y Cynghorydd Davies ddim yn gallu bod yn bresennol oherwydd mater teuluol.

'Gwneud lles'

Clywodd cyfarfod arbennig y pwyllgor safonau ym mis Mai 2026 fod nifer o gysylltiadau rhwng y Cynghorydd Dennison a Mr Bridges.

Roedd y Cynghorydd Dennison wedi bod yn ysgrifennydd y gyfrinfa Seiri Rhyddion leol rhwng 2018 a 2022. Y gyfrinfa oedd yn berchen ar yr adeilad lle cafodd y gwaith ei wneud.

Roedd hefyd wedi bod yn gyfarwyddwr Imperial Hall Ltd, cwmni Mr Bridges, rhwng 2020 a 2023. Daeth hynny ar ôl iddo roi benthyciad i Mr Bridges, sydd wedi’i ad-dalu ers hynny.

Dywedodd y pwyllgor fod eu cysylltiad yn “fwy na chydnabod ei gilydd yn achlysurol”.

Ar ôl i gynghorwyr godi pryderon, gwnaeth y Prif Weithredwr Cynorthwyol Richard Brown gŵyn i’r Ombwdsmon.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad y byddai aelod o’r cyhoedd oedd yn gwybod yr holl ffeithiau yn gweld y byddai y cynghorydd yn gweld budd mewn oedd yn rhagfarnu ei benderfyniad.

Wrth amddiffyn ei hun, dywedodd y Cynghorydd Dennison ei fod “wedi’i ysgogi gan yr awydd i wneud lles i bobl Sir Benfro”.

Dywedodd hefyd ei fod yn rhoi ei gyflog fel cynghorydd i elusen ysbyty cŵn yn Sri Lanka.

Nododd cais y Cynghorydd Dennison am ganiatâd i apelio i Banel Dyfarnu Cymru saith sail dros apelio.

Mewn adroddiad ar 28 Gorffennaf, daeth y Barnwr Meleri Tudur o Banel Dyfarnu Cymru i’r casgliad nad oedd gan yr un ohonyn nhw obaith rhesymol o lwyddo.

Ar ôl y penderfyniad, anfonodd Swyddog Monitro a Phennaeth y Gyfraith a Llywodraethu’r cyngor, Rhian Young, neges at bob cynghorydd.

Cadarnhaodd y byddai’r gwaharddiad o bedwar mis yn dechrau ar 29 Gorffennaf.

Dywedodd: “Yn ystod y cyfnod gwahardd, fydd gan y Cynghorydd Dennison ddim hawl i gyflawni unrhyw ddyletswyddau fel cynghorydd, mynd i gyfarfodydd y cyngor na’i bwyllgorau, na chynrychioli’r cyngor mewn unrhyw swyddogaeth swyddogol.

“Bydd yn ailafael yn ei ddyletswyddau ar 29 Tachwedd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.