Fferm yn colli dros £50,000 oherwydd effaith y tywydd poeth ar y cynhaeaf
Mae ffermwr yn Sir Fynwy wedi dweud ei fod wedi colli dros £50,000 oherwydd effaith y tywydd poeth ar y cynhaeaf.
Dywedodd Gareth Williams, sy’n ffermio ar dir Parc Fferm Rhaglan, mai dyma’r cynhaeaf lleiaf iddo ei weld erioed.
Mae’r fferm wedi colli £54,000 eleni oherwydd y tywydd, meddai.
Disgrifiodd Gareth y golled ariannol fel un “ofnadwy” a dywedodd ei fod yn poeni am sut y bydd y fferm yn ymdopi.
Dywedodd: “Rydw i wedi bod yn ffermio ar hyd fy oes ac rydyn ni wastad wedi cael llawer o ŷd, ond alla i ddim cofio iddo fod fel hyn erioed.
“Mae wedi bod mor sych am gymaint o amser. Mae hynny wedi crebachu y grawn ac arwain at lai o gynnyrch.”
Roedd yn rhagweld y byddai prisiau yn codi i gwsmeriaid o ganlyniad, meddai, yn enwedig pris cynhyrchion sy’n cynnwys gwenith a cheirch, fel bara ac uwd.
“Byddwn i wedi meddwl bod yn rhaid i'r prisiau fynd i fyny, mewn gwirionedd,” meddai.
“Bydd y defnyddiwr yn gweld pris y bara a phopeth yn mynd i fyny. Bydd yn rhaid i’r [pris] gael ei drosglwyddo ymlaen.
“Bydd yn rhaid i'r aelwyd dalu mwy am bethau bob dydd.”
Sychder
Mae sychder neu gyfnod hir o dywydd sych yn effeithio ar rannau helaeth o Gymru ar ôl cyfnodau hir o wres eithafol, tanau gwyllt eang a lefelau afonydd is nag erioed.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau fod yr ardaloedd canlynol mewn sychder:
- Gogledd Gwynedd
- Ynys Môn
- De Gwynedd
- Dyfrdwy
- Clwyd
- Hafren Uchaf
Yn ôl y Ganolfan Genedlaethol Lliniaru Sychder, mae sychder yn “gyfnod hir heb ddigon o law, sy’n achosi difrod helaeth i gnydau ac yn arwain at gynhaeaf llai”.
Mae Brynbuga, yn Sir Fynwy, wedi cael 20 diwrnod o dywydd poeth iawn yn olynol. Mae hynny’n torri’r record flaenorol yng Nghymru, a gafodd ei gosod yn ystod haf 1976.