Cymru'n colli i Dde Affrica yn Durban
Mae Cymru wedi colli'n drwm o 43-0 yn erbyn De Affrica ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd yn Durban nos Sadwrn.
Wrth i'r wlad ddathlu diwrnod Mandela, roedd y tîm cartref lawer rhy gryf i Gymru oedd yn chwarae mewn crysau gwynion.
Roedd y prif hyfforddwr Steve Tandy wedi gwneud saith newid i’r pymtheg ddechreuodd y gêm yn yr Ariannin, gyda Teddy Williams yn ymuno gydag Adam Beard yn yr ail reng a Louis Rees-Zammit yn ail-ennill ei le yn y 15 cychwynnol i Gymru ar ôl cael ei ddewis ar y fainc yn y golled erbyn yr Ariannin wythnos yn ôl.
Cafodd Ellis Mee ei alw i'r tîm cyn y gic gyntaf yn ogystal, yn dilyn anaf i'r asgellwr Josh Adams.
Fe ddangosodd De Affrica eu grym yn gynnar yn y gêm ac roedd prin pedair munud ar y cloc pan groesodd yr wythwr Jasper Wiese am gais yn dilyn sawl tacl wan gan Gymru gyda'r maswr Vusi Moyo yn trosi. De Affrica 7-0 Cymru.
Gyda blaenwyr Cymru'n mynd tua nôl fe sgoriodd y mewnwr Cobus Reinach ail gais ei dîm ar ôl 14 munud gyda rhediad o fôn sgrym rymus arall. Fe drosodd Moyo eto. De Affrica 14-0 Cymru.
Prin oedd y cyfleoedd i Gymru wneud unrhyw beth gyda'r bêl gyda dwysedd, cyflymdra a phŵer De Affrica lawer yn drech na nhw.
Roedd y gêm mor unochrog, roedd yn syndod nad oedd De Affrica ymhellach ar y blaen ar ôl hanner awr.
Fe ddaeth trydydd cais i'r Springboks yn eiliadau ola'r hanner gyda'r canolwr Jesse Kriel yn croesi.
Y sgôr ar yr egwyl: De Affrica 19-0 Cymru.
Fe ddechreuodd yr ail hanner yn y modd gwaethaf posib i Gymru pan groesodd yr asgellwr Jaco Williams ar ôl 40 eiliad yn ei gêm gyntaf dros ei wlad gyda Moyo yn trosi. De Affrica 26-0 Cymru.
Daeth mwy o gyfleoedd i Gymru wedi hyn wrth i Dde Affrica gael eu cosbi sawl gwaith.
Yn anghyffredin, roedd De Affrica yn euog o ildio sawl cyfle i ychwanegu at y sgôr wrth iddyn nhw wneud camsyniadau.
Fodd bynnag daeth pumed cais iddyn nhw gan yr eilydd o fewnwr Herschel Jantjies ar ôl 62 munud. De Affrica 31-0 Cymru.
Daeth ergyd arall i Gymru wrth i'r eilydd Ben Warren dderbyn cerdyn melyn am dacl beryglus.
Fe groesodd yr asgellwr Kurt-Lee Arendse am chweched cais ei dîm ar ôl 68 munud wrth i chwaraewyr Cymru flino dan yr holl bwysau gan Dde Affrica. De Affrica 36-0 Cymru.
Daeth seithfed cais i Dde Affrica ym munudau ola'r gêm gan y blaenasgellwr Paul de Villiers.
Nid oedd y sgôr terfynol wir yn adlewyrchu goruchafiaeth pencampwyr y byd yn y gêm gyda'r tîm cartref yn colli cyfle ar ôl cyfle mewn modd esgeulus.
Y sgôr terfynol: De Affrica 43-0 Cymru.
Llun: Asiantaeth Huw Evans