Criwiau tân yn ymateb i 'dân mawr' ger Caerdydd

Tân Llantrisant

Mae criwiau tân yn parhau i ymateb i "dân mawr" mewn canolfan ailgylchu ger Caerdydd.

Dywedodd Gwasanaeth Tân De Cymru eu bod yn delio â thân yng nghanolfan ailgylchu Llantrisant.

Dyma'r diweddaraf o gyfres o danau mae criwiau wedi delio â nhw ar draws Cymru, gydag un ger Bwlch Sychant yng Nghonwy ac un yn Llanbedr ger Harlech dros y dyddiau diwethaf.

Mae ardal y tân dros dir 1,200 metr sgwâr ac mae 1,500 tunnell o wastraff yn gorchuddio'r tir.

Mewn datganiad, dywedodd y gwasanaeth tân eu bod nhw wedi cael eu galw i'r ganolfan ailgylchu am 02:00 fore Iau.

Does dim perygl i fywyd, ond mae'r gwasanaeth tân yn annog pobl leol i gadw eu ffenestri ar gau er mwyn diogelu rhag y mwg.

Dywedodd Mike Wyatt, pennaeth ymateb Gwasanaeth Tân De Cymru, fod sawl asiantaeth yn gweithio i ddiffodd y tân.

"Hoffwn ddiolch i'n criwiau hynod fedrus am eu dewrder a'u hymroddiad," meddai.

"Mae eu proffesiynoldeb a'u hymroddiad wedi chwarae rôl hanfodol yn yr ymateb yma.

"Roedd cydweithrediad yn allweddol i'r digwyddiad hwn. Fe wnaeth ein partneriaid, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Rhondda Cynon Taf a Heddlu De Cymru, ein cynorthwyo wrth i ni weithio i reoli'r tân.

"Rydym yn deall ac yn cydnabod yr aflonyddwch y mae hyn wedi ei achosi.

"Diolch yn arbennig i'n cymunedau, trigolion lleol a busnesau am eu hamynedd, eu dealltwriaeth, a'u cefnogaeth yn ystod y digwyddiad."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.