Nicki Minaj heb fynychu’r Met Gala 'oherwydd gofynion brechu'

The Independent

Mae’r berfformwraig Nicki Minaj wedi dweud nad yw hi wedi mynychu digwyddiad ffasiwn y Met Gala eleni oherwydd roedd gofyn i westeion fod wedi cael brechlyn Covid-19.

Mae’r Met Gala yn un o ddigwyddiadau cymdeithasol mwyaf uchel ei fri o’r flwyddyn.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Llun, dywedodd y gantores: “Maen nhw eisiau ichi gael eich brechu ar gyfer y Met. Os dwi’n cael fy mrechu, fydd e ddim ar gyfer y Met.”

Yn ôl The Independent, ychwanegodd y berfformwraig: “Bydd hynny [cael ei brechu] unwaith dw i wedi gwneud digon o ymchwil. Dw i’n gweithio ar hynny nawr. Yn y cyfamser, byddwch yn ddiogel. Gwisgwch fwgwd gyda dau linyn o amgylch eich pen a’ch wyneb. Nid yr un llac.”

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Llun: Lightspace Studios