Arestio dyn o Borthmadog ar amheuaeth o gwrdd â phlentyn ar ôl meithrin perthynas rywiol

Heddlu

Mae dyn o ardal Porthmadog, Gwynedd wedi ei arestio ar amheuaeth o gwrdd â phlentyn ar ôl meithrin perthynas rywiol.

Cadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru bod y dyn 29 oed wedi'i arestio ddechrau Gorffennaf.

Mae'r dyn wedi ei ryddhau ar fechnïaeth amodol tra bod ymholiadau'r heddlu yn parhau.

Nododd yr heddlu nad oes modd iddyn nhw wneud sylw pellach am fod yr ymchwiliad yn parhau.

Maen nhw'n annog y cyhoedd i beidio â dyfalu am y digwyddiad na lledaenu ffeithiau anghywir ar-lein.

Maen nhw'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r llu gan ddyfynnu 26000520276.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.