Dynes 18 oed wedi marw ar ôl 'argyfwng meddygol' mewn gŵyl ar Ynys Môn
Mae dynes 18 oed wedi marw ar ôl "argyfwng meddygol" mewn gŵyl yn Llanfaethlu, ar Ynys Môn, meddai’r heddlu.
Fe aeth y gwasanaethau brys i Ŵyl Tonnau ar Ystâd Carreglwyd tua 01.45 bore ddydd Sadwrn, ar ôl adroddiadau am argyfwng meddygol.
“Er gwaethaf ymdrechion gorau’r gwasanaethau brys, bu farw’r fenyw 18 oed yn ddiweddarach yn yr ysbyty,” meddai Heddlu’r Gogledd.
Mae’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un annisgwyl tra bo’r ymchwiliadau’n parhau, ac mae’r crwner wedi cael gwybod.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Iolo Edwards: “Mae ein meddyliau gyda theulu’r fenyw a’i hanwyliaid yn ystod y cyfnod anodd hwn.
“Rydym yn annog aelodau o’r cyhoedd i beidio â dyfalu ynghylch amgylchiadau’r farwolaeth.”
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo eu hymchwiliad gysylltu â nhw drwy eu gwefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod O110259.