A487 ar gau rhwng Llanrhystud a Blaenplwyf yn dilyn gwrthdrawiad
Mae’r A487 ar gau i’r ddau gyfeiriad i'r de o Aberystwyth rhwng Llanrhystud a Blaenplwyf yn dilyn gwrthdrawiad fore Sadwrn.
Cafodd y ffordd ei chau am toc wedi 07:30 ac mae oedi yn yr ardal.
Mae gwyriadau lleol ar waith, ac mae’r heddlu wedi gofyn i yrwyr osgoi’r ardal a defnyddio ffyrdd eraill.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys y bydd y ffordd ar gau hyd nes y clywir yn wahanol.
Rhagor i ddilyn