Rhyddhau dyn gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio Ann Widdecombe

Llun PA
Ann Widdecombe

Mae dyn 26 oed gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio’r cyn-AS ac ASE Ann Widdecombe wedi’i ryddhau o’r ddalfa ac nid yw bellach yn rhan o’r ymchwiliad, meddai’r heddlu.

Cafodd y dyn ei arestio ddydd Gwener mewn cyfeiriad yn Newton Abbot yn Nyfnaint.

Cadarnhaodd Heddlu Dyfnaint a Chernyw ddydd Sadwrn ei fod wedi’i ryddhau.

Cafodd Ann Widdecombe, 78 oed, ei chanfod yn farw yn ei chartref yn Haytor ar Dartmoor ddydd Iau ar ôl dioddef anafiadau difrifol.

Roedd hi wedi gwasanaethu fel gweinidog carchardai Ceidwadol cyn dod yn ASE dros Blaid Brexit ac yn llefarydd ar ran Reform UK.

Cymerodd ran hefyd mewn rhaglenni teledu fel Strictly Come Dancing a Celebrity Big Brother.

Roedd Widdecombe wedi ymddangos ar TalkTV ddydd Mercher, y diwrnod cyn iddi gael ei chanfod yn farw.

Roedd disgwyl iddi hefyd ymddangos ar raglen Matt Allwright ar Channel 5 y prynhawn hwnnw, ond ni wnaeth ymddangos. 

Yn ôl ITV, ni chafodd tîm y rhaglen ymateb pan geisiodd gysylltu â hi drwy Zoom, dros y ffôn ac mewn negeseuon.

Image
Ty Ann Widdecombe
Cafodd yr heddlu eu galw i gartref Ann Widdecombe yn Haytor, ger Newton Abbot, am 11.40 fore Iau.

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Dyfnaint a Chernyw, Matt Longman: “Ein blaenoriaeth o hyd yw adnabod y rhai sy’n gyfrifol a sicrhau bod yr holl dystiolaeth sydd ar gael yn cael ei harchwilio’n drylwyr.

“Mae ditectifs yn parhau i gynnal nifer o ymholiadau fel rhan o’r ymchwiliad sy’n mynd rhagddo ac rydym yn parhau’n ymrwymedig i ganfod yr holl amgylchiadau ynglŷn â’r digwyddiad.”

Dywedodd fod yr ymchwiliad yn “symud yn gyflym iawn”.

“Rydym yn defnyddio’r holl adnoddau angenrheidiol i ganfod yn union beth sydd wedi digwydd,” meddai.

“Byddwn yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad hwn, waeth pa mor ddibwys y gallai ymddangos, i ddod ymlaen a siarad â ni.

“Byddwn yn rhyddhau rhagor o wybodaeth pan fyddwn yn gallu gwneud hynny. Yn y cyfamser, byddwn yn gofyn i bobl beidio â dyfalu ynglŷn â’r hyn a allai fod wedi digwydd, yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Gallai hynny nid yn unig niweidio ein hymchwiliad, ond mae hefyd yn peri gofid mawr i deulu a ffrindiau Miss Widdecombe.”

Dywedodd yr heddlu fod teulu Ann Widdecombe wedi gofyn i’w preifatrwydd gael ei barchu.

Mae porth digwyddiad mawr wedi’i sefydlu er mwyn i bobl gyflwyno gwybodaeth, lluniau neu fideos i’r heddlu.

Mae modd hefyd darparu gwybodaeth yn ddienw i’r elusen annibynnol Crimestoppers.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.