Cadeirydd y BBC yn galw eto ar Huw Edwards i ddychwelyd £200,000 o'i gyflog

Huw Edwards tu allan i'r llys

Mae cadeirydd y BBC, Dr Samir Shah, wedi galw unwaith eto ar y cyn-gyflwynydd newyddion Huw Edwards i dalu £200,000 o'i gyflog yn ôl i'r gorfforaeth.

Roedd Dr Shah yn siarad wrth ymddangos o flaen Pwyllgor Dethol Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Tŷ’r Cyffredin fel rhan o’u hymchwiliad i ddyfodol y darlledwr cenedlaethol.

Mae’r BBC eisoes wedi annog Edwards i ddychwelyd y cyflog a gafodd yn y pum mis ar ôl iddo gael ei arestio, tra'r oedd yn parhau i gael ei gyflogi gan y darlledwr.

Ym mis Medi 2024, fe gafodd Huw Edwards ddedfryd o chwe mis o garchar wedi ei ohirio am ddwy flynedd am fod â delweddau anweddus yn ei feddiant, oedd yn cynnwys 41 o ddelweddau o blant. 

Roedd saith o'r lluniau yn ei feddiant yn perthyn i'r categori mwyaf difrifol, sef categori A. Roedd wedi derbyn y lluniau mewn negeseuon WhatsApp gan ddyn arall.

Ar ôl iddo bledio’n euog ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno, gofynnodd y BBC iddo ddychwelyd ei gyflog rhwng y cyfnod pan gafodd ei arestio ym mis Tachwedd 2023 a phan ymddiswyddodd ym mis Ebrill 2024.

Parhau 'i obeithio'

Wrth siarad ag ASau ddydd Mercher, dywedodd Dr Shah nad oedd y gorfforaeth “wedi rhoi’r gorau i obeithio” y byddai Edwards, oedd yn un o’r cyflwynwyr newyddion ar y cyflogau uchaf yn y BBC, yn dychwelyd yr arian.

Dywedodd: “Rydw i eisoes wedi dweud fy mod yn credu y dylai Huw Edwards ddychwelyd yr arian. 

“Nid yw wedi gwneud hynny. Rwy’n darllen ei fod yn ceisio ryw fath o achubiaeth ('redemption').

“Rwy’n credu y byddai dychwelyd yr arian yn un cam da iawn tuag at hynny, os oes ganddo fymryn o uniondeb moesol. Nid yw wedi gwneud hynny. Rwy’n credu y dylai.”

Ychwanegodd Dr Shah fod y “swm sylweddol o arian… yn perthyn i dalwyr ffi’r drwydded”.

“Fe ddylai wirioneddol ei roi yn ôl, a byddwn yn parhau i bwyso arno i wneud hynny. Rwy’n credu mai dyna fyddai talwyr ffi’r drwydded eisiau i ni ei wneud,” ychwanegodd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.