Mango, y capybara gafodd ei enwi drwy ymgyrch codi arian, wedi marw’n annisgwyl
Mae capybara gafodd ei enwi gan y cyhoedd drwy ymgyrch codi arian wedi marw’n annisgwyl yn Sw Mynydd Cymru.
Dywedodd y sw fod Mango wedi marw ddydd Sul 5 Gorffennaf, ychydig wythnosau ar ôl iddo gyrraedd y safle ym Mae Colwyn.
Roedd y cyhoedd wedi cael cyfle i awgrymu enw iddo fel rhan o ymgyrch codi arian i’r sw.
Cafodd yr enw Mango ei ddewis o blith mwy na 400 o geisiadau.
Fleur, merch 10 oed o Ruddlan, wnaeth awgrymu’r enw buddugol.
Mewn datganiad, dywedodd Sw Mynydd Cymru eu bod yn rhannu’r newyddion “gyda thristwch enfawr”.
“Er mai dim ond yn ddiweddar yr oedd Mango wedi ymuno â ni, roedd e eisoes wedi dod yn aelod hoff iawn o deulu Sw Mynydd Cymru,” meddai’r datganiad.
“Mae ein ceidwaid ymroddedig, oedd yn gofalu amdano bob dydd, wedi torri eu calonnau, fel pawb ohonom ni yn y sw.”
Dywedodd y sw eu bod yn gwybod bod nifer wedi bod yn dilyn taith Mango, “o agor ei gynefin newydd i helpu i ddewis ei enw”.
“Roedd eich cyffro a’ch cefnogaeth yn golygu cymaint, ac rydym yn wirioneddol flin ein bod yn rhannu newyddion mor drist,” meddai’r datganiad.
Mae’r sw bellach yn ceisio darganfod pam y bu farw Mango.
“Ar hyn o bryd, rydym yn aros am ragor o ganfyddiadau milfeddygol er mwyn deall achos ei farwolaeth yn well,” meddai’r datganiad.
Bydd cynefin Cabana Capybara yn aros ar gau dros dro hyd nes y bydd rhybudd pellach.
Dywedodd y sw mai lles pob anifail sydd yn eu gofal yw eu “blaenoriaeth uchaf”.
“Diolch am y caredigrwydd a’r ddealltwriaeth rydym yn gwybod y bydd cymaint ohonoch yn eu dangos i’n tîm yn ystod cyfnod anhygoel o anodd,” meddai’r datganiad.