Dyffryn Ogwen: Gyrrwr wedi ei anafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiad
Mae gyrrwr beic modur wedi ei anafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiad ar yr A5 yn Nyffryn Ogwen.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 16.42 ddydd Mawrth ar ôl adroddiadau am wrthdrawiad rhwng beic modur BMW coch a fan Ford Transit las.
Mae’r heddlu yn apelio am dystion a lluniau camera dashfwrdd ar ôl y gwrthdrawiad.
Dywedodd y Rhingyll Leigh McCann o’r Uned Troseddau Ffyrdd: “Rydym yn ymchwilio i holl amgylchiadau’r gwrthdrawiad hwn ac yn annog unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu a oedd yn teithio ar hyd yr A5 ger Dyffryn Ogwen ar y pryd, i gysylltu â ni.
“Rwy’n awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â lluniau camera dashfwrdd a allai fod wedi cofnodi'r naill gerbyd neu’r llall ar adeg y gwrthdrawiad, neu cyn hynny.”
Mae unrhyw un sydd â gwybodaeth yn cael ei annog i gysylltu â swyddogion yr Uned Plismona Ffyrdd drwy’r sgwrs fyw ar eu gwefan, neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 0107768.