Aelod seneddol yn cyhuddo perchnogion Ysgol Rhuthun o 'fachu tir'

Ysgol Rhuthun

Fe allai'r cwmni tramor sydd wedi cau Ysgol Rhuthun wynebu ymchwiliad posib pe byddai nhw'n mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Fe wnaeth yr ysgol, oedd dros 700 oed, gau ei drysau am y tro olaf ar ddiwedd y tymor, a ddaeth i ben ar 3 Gorffennaf - er mawr syndod i ddisgyblion a rhieni.

Cafodd ei sefydlu yn 1284 ac roedd yn un o'r ysgolion hynaf yng Nghymru.

Mae'r perchnogion - cwmni Galaxy Global Education Limited o Tsieina - hefyd wedi cau Ysgol Uwchradd Durham ac ysgol Malvern St James yn Sir Gaerwrangon yn ddiweddar.

Cyhuddodd yr AS Llafur, Mary Kelly Foy, y cwmni o brynu'r ysgolion er mwyn "bachu tir".

Wrth siarad yn San Steffan ddydd Mawrth, dywedodd y Gweinidog Addysg Olivia Bailey y gallai'r cwmni wynebu ymchwiliad.

Dywedodd fod gan ysgolion preifat y "rhyddid i wneud penderfyniadau eu hunain" ond ei bod wedi synnu at sut mae Galaxy Global Education Limited wedi gweithredu.

"Tra ein bod ni'n deall nad yw'r perchnogion yn nwylo'r gweinyddwyr ar hyn o bryd, mae gweithdrefniadau cadarn yn cael eu dilyn os bydd gweinyddwr yn cael ei benodi.

"Bydd y broses yn cynnwys ymddygiad cyfarwyddwyr y cwmni ac asesiad ynghylch a oes angen adolygiad neu ymchwiliad pellach.

"Lle mae tystiolaeth o gamymddwyn a bod camau gorfodi o ddiddordeb i'r cyhoedd, bydd y Gwasanaeth Ansolfedd, wrth gwrs, yn cymryd camau priodol.”

'Hynod drist'

Dywedodd llefarydd ar ran Galaxy Global Education Limited eu bod yn gweithio'n agos gyda Choleg Myddelton i sicrhau bod disgyblion Ysgol Rhuthun yn cael y cyfle i barhau â'u haddysg ym mis Medi.

Bydd disgyblion sy'n sefyll arholiadau yn parhau i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw wrth symud ymlaen i'r cam nesaf.

Ychwanegodd y llefarydd fod trafodaethau hefyd yn parhau gyda Choleg Myddelton ynghylch sut mae modd diogelu etifeddiaeth Ysgol Rhuthun.

"Mae hyn yn hynod drist i bawb sy'n gysylltiedig ag Ysgol Rhuthun. Er gwaethaf pob ymdrech i sicrhau dyfodol yr ysgol, nid yw wedi bod yn bosibl sefydlu ffordd ymlaen sy'n hyfyw yn ariannol, a bydd y cwmni'n mynd i ddwylo'r gweinyddwyr ar ôl diwedd y tymor.

"Mae penderfyniad ar y cyd i sicrhau y bydd hanes unigryw a chyfraniad yr ysgol i fyd addysg yn parhau i gael eu cydnabod yn y dyfodol.

"Rydym yn hynod ddiolchgar i'n staff am eu proffesiynoldeb a'u hymroddiad drwy'r cyfnod eithriadol o anodd hwn, ac yn hynod flin ein bod wedi cyrraedd y pwynt hwn."

'Bachu tir'

Mewn datganiad ynglŷn â wynebu ymchwiliad posib, dywedodd y cwmni nad oedden nhw wedi cymryd rheolaeth o'r ysgol er mwyn bachu ar dir y safle.

“Mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd iawn i ddisgyblion, rhieni, staff a’r gymuned ehangach, ac rydym yn drist iawn bod yr ysgol wedi cyrraedd y pwynt yma," meddai'r cwmni.

“Ond rydym yn gwrthod yn bendant unrhyw awgrym bod yr ysgol wedi’i chaffael am ei thir neu fod unrhyw gamddefnyddio asedau wedi digwydd.

“Roedd Ysgol Uwchradd Durham yn eiddo i Durham Education Ltd, endid cyfreithiol ar wahân i Galaxy Global Education.

“Caffaelodd y cyfranddalwyr yr ysgol gyda’r bwriad o sicrhau ei dyfodol hirdymor fel ysgol annibynnol ac wedi hynny wedi buddsoddi arian ychwanegol sylweddol i gefnogi ei gweithrediad parhaus.

“Roedd y buddsoddiadau hynny’n sylweddol fwy na gwerth asedau tir ac eiddo’r ysgol ac fe wnaethant alluogi’r ysgol i barhau i weithredu tra bod pob opsiwn realistig i sicrhau ei dyfodol yn cael ei archwilio.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.