Tywydd poeth i ddod unwaith eto yng Nghymru

Tywydd poeth

Mae disgwyl tywydd poeth unwaith eto'r wythnos yma yng Nghymru ac i'r tymheredd barhau yn uchel am sawl diwrnod.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd mae disgwyl i'r amodau fod yn llai clòs na'r don wres ddigwyddodd ym mis Mehefin. Bydd y tymheredd ychydig yn is a llai o nosweithiau eithriadol o gynnes.

Ond fe allai'r tywydd poeth bara yn hirach y tro yma. Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd yn dweud bod yna bosibilrwydd o gawodydd a mellt a tharanau.

Dywedodd Dirprwy berson tywydd y Swyddfa Dywydd, Steven Keates, y bydd rhannau o Brydain yn gweld "trydedd don wres" eleni.

“Bydd llawer o Loegr a Chymru yn boeth, a bydd y gwres yn ymestyn i rannau o’r Alban a Gogledd Iwerddon hefyd, er bod y tymheredd uchaf yma’n fwy tebygol o fod yn yr 20au uwch," meddai.

"Does dim disgwyl i'r tymheredd yr wythnos hon gyrraedd yr uchelfannau a welwyd y mis diwethaf. Ond bydd rhannau o dde Lloegr yn arbennig yn debygol o weld sawl diwrnod 30au Celsius, isel ac fe allai rhai mannau gyrraedd 34–35°C yn ddiweddarach yr wythnos hon."

Ychwanegodd y bydd y tymheredd dros nos yn is na'r hyn oedd fis diwethaf. Ond dywedodd y gallai ardaloedd trefol weld y tymheredd yn ymylu at yr ugain gradd yn ystod y nos. 

Ar ddiwedd mis Mehefin roedd o leiaf 840 o ysgolion ar gau ar draws Cymru wrth i'r tymheredd gyrraedd 33.3C yng Nghaerdydd.

Nos Fercher 24 Mehefin oedd y poethaf yn hanes y DU ym mis Mehefin, yn ôl y Swyddfa Dywydd. Wnaeth y tymheredd dros nos yng Nghaerdydd ddim gostwng o dan 23.5C.

 



 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.