Asbestos mewn dros 100 o adeiladau Cyngor Bro Morgannwg
Mae asbestos mewn mwy na 100 o adeiladau sy’n eiddo i Gyngor Bro Morgannwg neu sy’n cael eu cynnal gan yr awdurdod yn ôl y cofnodion diweddaraf.
Mae'r adeiladau yma yn cynnwys ysgolion a meithrinfeydd.
Dangosodd cais rhyddid gwybodaeth fod deunyddiau sy’n cynnwys asbestos mewn 112 o adeiladau.
Mae’r rhain yn cynnwys 40 o ysgolion, colegau neu feithrinfeydd, pedwar adeilad iechyd neu ofal, a dau adeilad fel swyddfeydd y cyngor neu neuaddau tref.
Mae asbestos hefyd mewn 20 o adeiladau hamdden neu ddiwylliannol, fel canolfannau hamdden, llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol ac amgueddfeydd.
Mae 46 o adeiladau cyhoeddus eraill ar y rhestr hefyd.
Dangosodd y cais hefyd fod cyn-weithiwr i Gyngor Bro Morgannwg wedi gwneud hawliad yn erbyn y cyngor ar ôl dod i gysylltiad ag asbestos mewn un o’r adeiladau.
Ni chafodd unrhyw arian ei dalu i setlo’r hawliad.
Gall dod i gysylltiad ag asbestos achosi mesothelioma, canser yr ysgyfaint ac asbestosis.
Ond dim ond os yw asbestos wedi dirywio neu wedi cael ei ddifrodi, er enghraifft yn ystod gwaith adeiladu neu adnewyddu, y mae’n peri risg i iechyd fel arfer.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bro Morgannwg fod ganddo gofnodion o asbestos mewn 112 o adeiladau.
“Mae hyn yn adlewyrchu ein dyletswydd gyfreithiol barhaus i arolygu, cofnodi a rheoli asbestos mewn adeiladau, llawer ohonynt wedi eu hadeiladu cyn i asbestos gael ei wahardd yn 1999,” meddai.
“Nid yw presenoldeb asbestos yn golygu bod adeilad yn anniogel.
“Yn unol â chanllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, mae’n bosib rheoli asbestos yn ddiogel yn ei le os yw mewn cyflwr da ac yn annhebygol o gael ei darfu.
“Mae gan y cyngor raglen gadarn ar gyfer rheoli asbestos. Mae hyn yn cynnwys cadw cofnodion, cynnal archwiliadau bob blwyddyn, monitro cyflwr asbestos, darparu gwybodaeth cyn gwaith cynnal a chadw, a threfnu gwaith atgyweirio neu dynnu pan fo angen.
“Nid yw’r ffaith bod asbestos wedi ei ganfod mewn 112 o adeiladau yn golygu bod yr adeiladau hynny’n anniogel.
“Mae’n dangos bod y cyngor yn adnabod, monitro a rheoli asbestos yn unol â gofynion iechyd a diogelwch.”