89mya yn Sir y Fflint ymhlith dros 15,000 o achosion o oryrru ar ffyrdd 20mya
Fe gofnododd camerâu cyflymder dros 15,000 o achosion lle roedd cerbydau’n teithio 30mya neu’n gyflymach ar ffyrdd â therfyn o 20mya yn ardal Heddlu Gogledd Cymru yn ystod 2025.
Daw’r ffigyrau o gais Rhyddid Gwybodaeth gan yr RAC i heddluoedd ledled y DU.
Y cyflymder uchaf gafodd ei gofnodi gan gamera ar ffordd 20mya yn y rhanbarth oedd 89mya ar y B5129 ym Mhentre, Sir y Fflint, ar 2 Ionawr 2025.
Roedd y 15,001 o achosion yn cyfrif am bron hanner y 32,548 gafodd eu cofnodi gan 28 o heddluoedd oedd wedi darparu data cymaradwy i’r RAC ledled y DU.
Yn ardal Heddlu Gogledd Cymru, fe gofnododd camerâu 410 o achosion hefyd lle roedd cerbydau’n teithio ar 40mya neu’n gyflymach ar ffyrdd â therfyn o 30mya.
Y cyflymder uchaf gafodd ei gofnodi gan gamera ar unrhyw ffordd yn rhanbarth yr heddlu oedd 118mya ar yr A548 ym Mostyn, lle roedd y terfyn cyflymder yn 40mya.
Y cyflymder uchaf gafodd ei gofnodi gan heddlu yn unrhyw le yn y DU yn ystod 2025 oedd 161mya.
Cafodd un achos ei gofnodi ar yr A5 yn ardal Bayston Hill yn Sir Amwythig, ac un arall ar yr M6 tua’r de rhwng Stoke a Stafford.
Dywedodd Rod Dennis, uwch-swyddog polisi’r RAC: “Mae ein dadansoddiad yn dangos rhai o’r cyflymderau gwirioneddol frawychus y mae rhai pobl yn barod i yrru arnynt, a dim ond yr achosion y mae’r heddlu’n ymwybodol ohonynt yw’r rhain.
“Mae’r ffaith bod rhai wedi’u cofnodi mewn ardaloedd preswyl, hyd yn oed ger ysgolion ac yn ystod y dydd pan allai eraill fod wedi bod yn defnyddio’r ffyrdd, yn tanlinellu pa mor beryglus yw’r math hwn o ymddygiad.
“Mae’n debygol iawn bod cerddwyr a beicwyr yn defnyddio’r ffyrdd hyn, felly mae’n annifyr meddwl beth allai teithio ar gyflymderau mor uchel fod wedi arwain ato.”
Ychwanegodd fod angen rhoi mwy o sylw i fynd i’r afael â goryrru difrifol a gyrwyr sy’n aildroseddu.
Mae’r RAC hefyd wedi galw am roi’r grym i lysoedd orchymyn gosod technoleg mewn cerbydau sy’n eu hatal rhag mynd dros y terfyn cyflymder.
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU: “Nid oes unrhyw esgus dros y rhai sy’n dewis goryrru a rhoi bywydau mewn perygl.
“Er nad oes gennym gynlluniau i wneud technoleg rheoli cyflymder yn orfodol, mae ein strategaeth diogelwch ffyrdd yn cynnwys cynigion i osod systemau ym mhob car newydd sy’n rhybuddio gyrwyr pan fyddant yn mynd dros y terfyn cyflymder.”
Cafodd terfyn o 20mya ei gyflwyno ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru ym mis Medi 2023.