'Pob cyfraniad bach yn mynd ymhell': Pryder am gost cystadlaethau dawns
'Pob cyfraniad bach yn mynd ymhell': Pryder am gost cystadlaethau dawns
Mae cymryd rhan yn un o gystadleuaethau dawns ‘mwyaf y byd’ yn faich ariannol mawr, yn ôl y rhai fydd yn cynrychioli Cymru.
Eleni mae 74 o wledydd a 11,500 o ddawnswyr wedi llwyddo i gyrraedd cystadleuaeth Dance World Cup Finals.
Bob blwyddyn, mae miliynau rhwng 4 a 25 oed yn cystadlu.
Mae’n cael ei chynnal yn Nulyn, Iwerddon.
Yn eu plith mae nifer o ysgolion dawns o Gymru.
Mae’r cyfle yn un ‘unwaith mewn oes’ yn ôl Lauren McCabe, sef athrawes a pherchennog ysgol Prestige Acrobatics and Dance ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Yn ôl Lauren, i un plentyn mae’r gost am wythnos o gystadlu, llety a theithio hyd at £2,000.
Mae hi a’r disgyblion wedi bod yn cynnal nifer o weithgareddau codi arian ers mis Rhagfyr.
"Mae yna gostau mawr ar gyfer y Dance World Cup ac mae’n faich ariannol mawr i’r rhieni hefyd. Felly mae pob cyfraniad bach ag arian dan ni wedi codi yn mynd ymhell."
Profiad tebyg sydd wedi bod i’r Elite School of Dance yn y Wyddgrug, Sir y Fflint.
'Cyfle unwaith mewn oes'
Mae Bahareh Amadi, athrawes yn yr Elite School of Dance, yn dweud bod hyn yn ‘gyfle gwych’ ond bod yna gostau.
"Trwy gydol y flwyddyn, mae ein dawnswyr a’u teuluoedd wedi gweithio’n ddiflino i godi arian i dalu am wisgoedd cystadlu a cit Cymru, ffioedd aelodaeth, ffioedd mynediad i gystadlaethau, teithio, llety a thocynnau i wylwyr.
"Fel ysgol ddawns fach, mae wedi bod yn anodd iawn cael nawdd gan gwmnïau mwy. Felly rydyn ni wedi bod yn dibynnu ar ymroddiad ein cymuned ddawns a thrwy godi arian ein hunain."
Yn ôl y cwmni Dimensions Performance Academy sydd wedi ei lleoli yng nghymoedd y de, mae’n bwysig bod pawb yn cael cyfleoedd fel hyn. Mae’r ysgol hefyd wedi llwyddo i gyrraedd y Cwpan y Byd dawns.
"Ni ddim yn credu y dylai lle rydych chi’n byw eich dal chi yn ôl, o safbwynt y cyfleoedd y mae hawl gennych chi i’w cael.
" DWC yw'r gystadleuaeth ddawns fwyaf yn y byd ac mae ganddi fri aruthrol. Mae'n gyfle unwaith mewn oes i’n dawnswyr," meddai.
Mae Elin, Teia ac Edie sydd o Dimensions Performance Academy, yn dweud eu bod nhw yn edrych ymlaen i fynd i Ddulyn.
"Mae mor cyffrous, mae'n rhywbeth ni wedi eisiau gwneud am amser hir, ond mae yn llawer o arian. Felly, i allu cael y cyfle, mae'n anhygoel," meddai Teia.
Ychwanegodd Edie: "Mae hwn yn siawns arbennig. Mae pobl o gwmpas y byd yn dod i'r cystadleuaeth yma, felly mae jyst yn grêt."
Wrth ymateb i'r sylwadau am y costau ariannol ar gyfer y gystadleuaeth, dywedodd Jo Arnette-Morrice, Rheolwr Timau'r Deyrnas Unedig:
"Rwy'n annog ac yn cynorthwyo'n weithredol, trwy roi cymaint o syniadau i godi arian i'r dawnswyr fynd i'r Dance World Cup.
"Rwy'n teimlo ei bod yn rhan bwysig o'r broses i ddawnswyr gymryd rhan mewn llawer o weithgareddau codi arian o ddechrau'r daith pan fyddant wedi cael clyweliad a chymhwyso i gymryd rhan, i fynd i'r rowndiau terfynol.
"Mae hyn yn tynnu'r pwysau oddi ar rieni. Mae'n rhan hwyliog o adeiladu tîm.
"Mae'r dawnswyr yn teimlo'n falch ohonyn nhw eu hunain am godi arian ac yn ei gwneud yn fforddiadwy ac yn gwbl gynhwysol i bawb."
