Llywodraeth Cymru i 'ystyried' profion newydd i gyflymu diagnosis o endometriosis
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd yn ystyried cyflwyno dau brawf newydd ar y GIG yng Nghymru a allai gyflymu'r broses o gael diagnosis o endometriosis, yn dilyn argymhellion drafft.
Daw ar ôl i'r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) argymell y profion EndoSure ac Endotest.
Gall y profion gael eu defnyddio ar y GIG am gyfnod o dair blynedd, tra bydd rhagor o dystiolaeth yn cael ei chasglu am eu heffeithiolrwydd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd yn "ystyried gweithredu’r profion" ar ôl i NICE gyhoeddi ei hargymhellion terfynol ym mis Hydref 2026.
Mae endometriosis yn gyflwr poenus lle mae meinwe debyg i leinin y groth yn tyfu mewn rhannau eraill o’r corff.
Tua un o bob 10 menyw o oedran atgenhedlu yn y DU sy'n cael ei effeithio, ond mae’n cymryd dros naw mlynedd ar gyfartaledd i gael diagnosis.
Mae Endotest yn defnyddio sampl poer i chwilio am farcwyr biolegol sy’n gysylltiedig ag endometriosis. Mesur signalau trydanol yn y perfedd drwy synwyryddion ar yr abdomen mae EndoSure.
Mae canlyniad EndoSure ar gael ar unwaith, tra bydd canlyniad Endotest yn cael ei anfon at y meddyg teulu.
Nid yw'r profion newydd yn rhoi diagnosis ar eu pennau eu hunain, ond dylent sicrhau bod menywod yn cael diagnosis a thriniaeth yn llawer cynt.
Yn ôl arolwg o fwy na 10,000 o fenywod, roedd dros hanner wedi gweld eu meddyg teulu fwy na 10 gwaith cyn cael diagnosis. Roedd mwy na hanner hefyd wedi mynychu adrannau achosion brys oherwydd eu symptomau.
Ar hyn o bryd, mae diagnosis fel arfer yn dibynnu ar sgan uwchsain, sgan MRI neu lawdriniaeth laparosgopi.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu’r canllawiau drafft newydd gan NICE.
"Rydym wedi ymrwymo i wella mynediad at wasanaethau a chymorth i fenywod sydd ag endometriosis," meddai'r llefarydd.
"Byddwn yn ystyried gweithredu’r profion hyn fel rhan o ddatblygu llwybrau gofal sylfaenol, yn dilyn argymhellion terfynol NICE, sydd i’w cyhoeddi ym mis Hydref 2026."
'Potensial am newid'
Dywedodd Dr Anastasia Chalkidou, cyfarwyddwr rhaglen technoleg iechyd NICE: "I rai menywod, gall gymryd bron i ddegawd i gael diagnosis o endometriosis.
"Ar gyfartaledd yn y DU, mae'n cymryd naw mlynedd a phedwar mis, gan godi i 11 mlynedd ymhlith menywod o gymunedau ethnig amrywiol.
"Mae'r oedi hwnnw'n golygu byw gyda phoen cronig yn y pelfis sy'n effeithio ar fywyd bob dydd, perthnasoedd a gwaith.
"Mae gan y technolegau hyn y potensial i newid hynny drwy roi offer gwell i weithwyr gofal sylfaenol adnabod endometriosis yn gynharach, gan alluogi menywod i gael triniaeth yn gynt ac yn fwy effeithiol.
"Mae ein canllawiau drafft yn adlewyrchu ein hymrwymiad i sicrhau bod arloesiadau addawol yn cyrraedd cleifion yn gyflym, gan sicrhau ar yr un pryd fod y dystiolaeth i gefnogi eu defnydd ehangach yn cael ei chasglu mewn ffordd drylwyr."
Mae Emma Cox, prif weithredwr Endometriosis UK, wedi croesawu'r profion newydd.
Ond ychwanegodd: "Mae'n rhaid gwneud yn siwr bod y profion newydd hyn yn mynd law yn llaw ag addysgu meddygon teulu a nyrsys practis, er mwyn sicrhau bod y rhai sydd eu hangen yn cael mynediad atynt yn brydlon, a bod poen a symptomau endometriosis yn cael eu hadnabod a'u cymryd o ddifrif."