Pryder y bydd dyfroedd Cymru yn gorboethi yr wythnos nesaf gan beryglu bywyd morol

Traeth Abersoch

Mae perygl y bydd y dyfroedd oddi ar arfordir Cymru yn gorboethi ymhellach yr wythnos nesaf, gan beryglu bywyd morol, meddai’r Swyddfa Dywydd.

Mae moroedd Cymru a Lloegr eisoes wedi cyrraedd tymheredd sydd i’w ddisgwyl ym mis Awst, 2C yn gynhesach na’r arfer, medden nhw.

Mewn rhai rhannau oddi ar arfordir Cymru, a hefyd Lloegr, mae’r môr 4-5C yn gynhesach nag arfer, medden nhw.

Mae'r don wres honno wedi ei hachosi gan newid hinsawdd a “chromen wres” a arhosodd dros Ewrop yr wythnos ddiwethaf, gan ddal gwres yno am ddyddiau.

Ar ôl cyfnod byr o dywydd oerach, mae disgwyl i’r tywydd gynhesu unwaith eto yr wythnos nesaf, gan olygu mai prin fydd y cyfle i wyneb y môr oeri.

Mae hynny’n cynyddu’r posibilrwydd y bydd y don wres forol bresennol yn cyrraedd dosbarthiad “eithafol” – lefel sydd yn brin iawn yn nyfroedd y DU, meddai’r Swyddfa Dywydd.

Dywedodd Dr Segolene Berthou, arbenigwraig ar ryngweithio rhwng yr aer a’r môr yn y Swyddfa Dywydd: “Fe fyddai amodau o’r fath yn anarferol iawn i ddyfroedd y DU.

“Mae tonnau gwres morol o amgylch y DU wedi datblygu’n gyflym yn dilyn y gromen wres ddiweddar, ac rydym ni bellach yn gweld amodau cryf ar raddfa eang, ac amodau difrifol mewn mannau lleol.

“Gyda thywydd heulog a thawel pellach yn debygol yr wythnos nesaf, prin fydd y cyfle i’r cefnfor ryddhau’r gwres hwn.”

Er gwaethaf tymereddau morol cynhesach na’r arfer, mae’r cyhoedd yn dal i gael eu rhybuddio am beryglon sioc dŵr oer.

Dywedodd Holly Clements, pennaeth rhybuddion a chanllawiau yn y Swyddfa Dywydd: “Gyda thywydd cynhesach ar y ffordd, a hyd yn oed gydag amodau ton wres forol, mae’n bwysig cofio bod y dŵr o amgylch y DU yn dal yn oer.

“Gall mynd i mewn iddo’n annisgwyl arwain at sioc dŵr oer.”

Lle bo hynny’n bosib, dylai pobl bob amser ddewis traeth lle mae achubwyr bywyd yr RNLI ar ddyletswydd, a nofio rhwng y baneri coch a melyn.

Mewn argyfwng, dylid ffonio 999 a gofyn am Wylwyr y Glannau, ychwanegodd y Swyddfa Dywydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.