‘Degawdau’ i nythfa huganod ar Ynys Gwales wella ar ôl ffliw adar

Huganod

Fe allai gymryd “degawdau” i nythfa huganod ar Ynys Gwales - sydd ymysg y mwyaf yn y byd – wella ar ôl achos difrifol o ffliw adar, yn ôl astudiaeth.

Dywedodd ymchwilwyr fod achos o ffliw adar yn 2022 wedi bod yn “ergyd ddigynsail” i adar môr y DU.

Fe arweiniodd at gynnydd mawr yn nifer y marwolaethau ymysg huganod y gogledd ar Ynys Gwales oddi ar arfordir Sir Benfro, a hefyd ar Creag nam Bathais (Bass Rock) yn yr Alban.

Nid oes disgwyl i boblogaethau’r ddwy nythfa fod wedi gwella’n llwyr o effaith y clefyd tan o leiaf 2041, yn ôl yr ymchwil.

Nid yw Undeb Rhyngwladol Cadwraeth Natur (IUCN) yn ystyried bod unrhyw bryder mawr am ddyfodol y rhywogaeth adar ar hyn o bryd - ond mae angen ail-ystyried hynny, meddai’r gwyddonwyr.

Fe wnaeth yr astudiaeth, a gafodd ei chyhoeddi yn Biological Conservation, ganfod bod cynnydd mawr yn y gyfradd farwolaeth wedi arwain at ostyngiad o 38% ym maint y nythfa ar Ynys Gwales yn 2023.

Rhybuddiodd yr ymchwilwyr mai adar sy’n magu yw’r prif ffactor sy’n gyrru twf poblogaeth mewn nythfeydd, ac felly y bydd y cynnydd sydyn mewn marwolaethau yn cael effaith hirdymor.

Mae modelu yn awgrymu ei bod yn annhebygol y bydd y nythfeydd yn adfer eu poblogaeth tan 2041, ac o bosib yn hwyrach na hynny.

Ar ôl St Kilda, i’r gorllewin o Ynysoedd Heledd Allanol, Ynys Gwales a Bass Rock yw safleoedd magu mwyaf y byd ar gyfer huganod y gogledd.

Dywedodd Jude Lane, prif awdur yr astudiaeth a gwyddonydd cadwraeth forol gyda’r RSPB: “Roedd y ffliw adar yn 2022 yn ergyd ddigynsail i adar môr y DU, ac mae’r canfyddiadau hyn yn dangos y bydd nythfeydd huganod allweddol ar Bass Rock ac Ynys Gwales yn cael eu heffeithio am ddegawdau i ddod.

“Er na allwn ni atal clefydau fel ffliw adar, drwy fonitro yn y tymor hir mewn nythfeydd allweddol ac ar draws poblogaethau ehangach, gallwn ddeall yr effeithiau yn well.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.