Dedfrydau i ddau fachgen a gafwyd yn euog o dreisio ‘dal ddim yn ddigon’, meddai mam

Llys Apêl

Mae mam un o ddwy ferch yn eu harddegau a gafodd eu treisio yn Sir Hampshire wedi dweud nad yw’r dedfrydau ar gyfer y ddau fachgen a gafwyd yn euog o’r ymosodiadau “dal ddim yn ddigon”.

Fe fydd y ddau fachgen yn treulio pedair blynedd dan glo mewn canolfan gadw ar ôl i’w dedfrydau gwreiddiol, nad oeddent yn cynnwys cyfnod yn y ddalfa, gael eu gwrthdroi.

Roedd gwleidyddion, gan gynnwys cyn weinidog y Swyddfa Gartref, Jess Phillips, wedi beirniadu’r ddedfryd a roddwyd i’r bechgyn yn wreiddiol am eu rhan wrth dreisio dwy ferch yn Fordingbridge, Hampshire, yn Lloegr.

Wrth siarad â’r BBC, dywedodd mam un o’r dioddefwyr: “Sut allai unrhyw fam fod yn hapus gyda phedair blynedd?

“Mae [y ferch] yn mynd i fyw gydag oes o drawma, ac mae hi’n mynd i fyw gyda dedfryd am oes.

“Wrth gwrs, nid yw’n ddigon, ond mae’n fwy na’r hyn oedd gennym ni... Felly mae’n rhaid i mi fod yn ddiolchgar.”

Ddydd Iau, dywedodd yr Arglwyddes Brif Ustus, y Farwnes Sue Carr, nad oedd gan y Llys Apêl “unrhyw ddewis arall ond newid y dedfrydau hyn” wrth iddi annerch y bechgyn.

Ni chafodd dedfryd trydydd bachgen, a gafwyd yn euog o dreisio hefyd am ei ran yn ffilmio un o’r ymosodiadau, ei newid.

Cafodd y dedfrydau gwreiddiol eu cyfeirio at y llys ar ôl i’r Twrnai Cyffredinol, yr Arglwydd Hermer, eu disgrifio fel rhai “rhy drugarog”.

Dywedodd Carr fod y llys wedi dod i’r casgliad bod barnwr yr achos, y Barnwr Nicholas Rowland, wedi “gwneud camgymeriad yn ei asesiad o ddifrifoldeb y troseddau”.

Wrth gyflwyno’r casgliadau, fe ychwanegodd fod “dedfrydau er mwyn cadw X ac Y dan glo yn anochel”.

Mae pob plentyn a gafwyd yn euog o’r ymosodiadau wedi cael anhysbysrwydd oherwydd eu hoedran, gyda’r troseddwyr yn cael eu galw yn X, Y a Z.

“Fe wnaeth y ddau ohonoch chi dreisio dwy ferch ar ddau achlysur gwahanol. Roeddech chi’n mwynhau’r peth ac yn annog eich gilydd. Fe wnaethoch chi wneud y peth yn waeth drwy ei ffilmio,” meddai Carr wrthyn nhw.

Fe wnaeth Carr ei gwneud yn glir y byddai dedfrydau o fwy na 10 mlynedd wedi bod yn angenrheidiol pe bai’r bechgyn wedi bod yn oedolion.

Dywedodd fod y ddau fachgen eisoes wedi treulio 231 o ddiwrnodau dan gyrffyw, a fydd yn cyfrif tuag at eu dedfryd.

Mae hynny’n golygu na fyddan nhw’n aros dan glo am y pedair blynedd lawn.

Cafodd y ddau hefyd orchymyn atal am oes sy’n eu gwahardd rhag cysylltu â’r dioddefwyr.

Wrth annerch Z, dywedodd Carr: “Roedd yr hyn wnest ti hefyd yn ddrwg iawn.

“Rydym wedi penderfynu, oherwydd dy fod ti’n ifanc iawn... nad oes angen i ni newid dy ddedfryd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.