‘Rhan o draddodiad ffermio mynydd Cymru’: Galw ar ffermwyr i gofnodi nodau clustiau ar wefan newydd

Nodau Clustiau

Mae ffermwyr defaid yn cael eu hannog i gofnodi eu nodau clust ar wefan newydd er mwyn helpu i ddiogelu’r traddodiad ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae'r wefan yn gofnod o filoedd o nodau clust o hen lyfrau papur ynghyd mewn cronfa ddata ryngweithiol.

Mae nod clust yn gyfuniad unigryw o doriadau neu riciau ar glustiau dafad, sy’n cael ei ddefnyddio i ddangos i ba fferm mae’r anifail yn perthyn.

Mae’r dull wedi cael ei ddefnyddio gan ffermwyr mynydd ers cenedlaethau ac mae’n arbennig o ddefnyddiol ar diroedd mynydd a thiroedd comin, lle mae defaid o wahanol ffermydd yn cymysgu.

Dywedodd Elain Gwilym o Gymdeithas Defaid Mynydd Cymreig fod y nodau yn rhan bwysig o hanes cefn gwlad Cymru.

“Mae pob fferm efo nod unigryw ac mae’r llyfrau a’r wefan yn dangos pwy sy’n berchen y nod yna,” meddai wrth Newyddion S4C.

“Mae’r nod yn bwysig yn hanesyddol ac mae’r nod yn perthyn i’r fferm, nid i’r ffermwr.

“Mae nodau clust yn rhan o draddodiad ffermio mynydd Cymreig ac mae o’n rhywbeth sydd dal yn fyw.”

Mae gwefan Nod Clust Cymru yn caniatáu i ddefnyddwyr chwilio am nodau yn ôl ardal, cylch neu fferm.

Image
Engraifft o nod clust
Enghraifft o ddyluniad nod clust 

Mae cofnodion o lyfrau Arfon a Meirionnydd eisoes wedi cael eu trosglwyddo i’r wefan.

Mae ffurflen hefyd ar gael i ffermwyr ddiweddaru’r wybodaeth, cadarnhau bod nod yn dal i gael ei ddefnyddio a’i gysylltu â rhif adnabod swyddogol y fferm.

Dyma’r rhif sy’n ymddangos ar dagiau’r defaid ar ôl y llythrennau UK ac sy’n helpu i olrhain o ba fferm neu ddaliad y daw’r anifail.

Mae’r prosiect wedi cael caniatâd Llywodraeth Cymru i gysylltu’r nodau clust â’r rhifau hyn ar y wefan.

Dim ond os yw’r ffermwr yn dewis cyflwyno’r wybodaeth ac yn cydsynio i’w rif UK gael ei gyhoeddi ar y wefan y bydd y manylion yn cael eu cysylltu.

‘Symud efo’r amser’

Daeth y syniad yn sgil trafodaethau rhwng Cymdeithas Defaid Mynydd Cymreig, Heddlu Gogledd Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru.

Dywedodd Ms Gwilym fod angen symud y wybodaeth ar-lein gan fod copïau o’r llyfrau gwreiddiol yn mynd yn fwyfwy prin.

“Mae’n 2026, mae’n rhaid i bob peth symud efo’r amser,” meddai.

“Mae’r llyfrau wedi mynd yn brin iawn ac mae’n bwysig i ni fod yr ifanc yn cadw’r cysylltiad ac yn cadw’r ffordd yma i fynd.

“Mae ffermydd yn dal i nodi. Mae gennym ni diroedd mynydd a chynefinoedd lle mae’r nod yn bwysig.

“Da ni jyst eisiau gwneud yn siŵr nad ydy o’n mynd yn angof.”

Yn ôl y prosiect, gallai cysylltu nod y glust â rhif adnabod swyddogol y fferm ei gwneud yn haws i ganfod o ble mae dafad ddieithr wedi dod.

Gallai hynny helpu ffermwyr i ddychwelyd defaid sydd wedi crwydro i’r fferm gywir.

Troseddau cefn gwlad

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud y gall y cofnodion helpu i gynnal rhestr gywir o farciau adnabod diadelloedd lleol a diogelu rhan bwysig o dreftadaeth ffermio Cymru.

Bydd swyddogion Tîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru yn ymweld â marchnadoedd da byw ar draws y rhanbarth i helpu ffermwyr i gofnodi a diweddaru eu gwybodaeth ar y system newydd.

Roedd yr heddlu hefyd yn rhan o’r gwaith gwreiddiol o gasglu data a chyhoeddi llyfrau nodau clust.

Dywedodd Ms Gwilym fod y wybodaeth yn gallu helpu i atal troseddau cefn gwlad ac adnabod tarddiad defaid sydd wedi cael eu dwyn.

“Os oedd defaid yn cael eu dwyn, roedd y nod yna yn symbol o le oedd y defaid wedi dod,” meddai.

Mae’r prosiect hefyd wedi bod yn gweithio gyda chlybiau ffermwyr ifanc ym Meirionnydd ac Eryri i ddysgu pobl ifanc sut i ddarllen y nodau.

Mae’r glust dde yn cael ei darllen yn gyntaf ac yna’r glust chwith, gyda’r toriadau ar ben y glust yn cael eu darllen cyn y rhai oddi tani.

Dywedodd Ms Gwilym fod dyfodol y wefan bellach yn dibynnu ar ffermwyr yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am eu diadelloedd.

“Mae’r wefan ond cystal â’r wybodaeth da ni’n ei chael i mewn,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.