Harry Wilson i ymuno â Leeds United yn ôl adroddiadau

Harry Wilson

Mae adroddiadau yn awgrymu y bydd chwaraewr Cymru, Harry Wilson, yn ymuno â Leeds United.

Fe fydd yr asgellwr 29 oed o Gorwen yn gadael Fulham wedi i’w gytundeb ddod i ben, er mwyn ymuno â’r clwb sy’n chwarae yn Elland Road.

Yn ôl adroddiadau yn The Athletic, fe wnaeth Wilson wrthod cynnig gan Fulham, ble mae wedi chwarae ers 2021, o blaid arwyddo cytundeb hirach gyda Leeds.

Nid yw’r clybiau wedi cadarnhau’r trosglwyddiad eto ond mae disgwyl iddo dderbyn prawf meddygol cyn arwyddo’r cytundeb yn swyddogol.

Cafodd Wilson dymor i’w gofio y tymor diwethaf, wrth iddo sgorio 11 gôl mewn 41 gêm dros Fulham. 

Roedd hefyd wedi serennu dros Gymru yn ystod eu hymgyrch aflwyddiannus i gyrraedd Cwpan y Byd 2026 yng Ngogledd America.

Gorffennodd Leeds yn yr 14eg safle yn Uwch Gynghrair Lloegr y llynedd, gyda chwaraewyr rhyngwladol Cymru, Karl Darlow, Joe Rodon, Ethan Ampadu a Dan James yn chwarae rhan flaenllaw yn ystod yr ymgyrch.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.