Ystradgynlais wedi gweld 'un o'r gostyngiadau mwyaf' yn nifer y siaradwyr Cymraeg
Mae cymuned yn ne Powys wedi profi un o'r gostyngiadau mwyaf yng Nghymru mewn siaradwyr Cymraeg dros gyfnod o dri degawd, yn ôl adroddiad gan Gyngor Sir Powys.
Yn ôl gwaith ymchwil y cyngor sydd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad blynyddol am 2025-2026 ar safonau'r iaith Gymraeg, roedd "cyfran y siaradwyr Cymraeg yn ardal Ystradgynlais wedi gostwng o 61% ym 1991 i 34% yn 2021."
O ganlyniad i'r canfyddiadau, bydd y cyngor nawr yn cynnal astudiaeth mapio ieithyddol ar hyd a lled y sir, gan ganolbwyntio ar ardaloedd fel Ystradgynlais.
Dywed yr adroddiad blynyddol ar y Gymraeg: "Dadansoddwyd data cyfrifiad ar y Gymraeg ledled Powys i nodi tueddiadau ledled y sir.
"Tynnodd y dadansoddiad hwn sylw at newid sylweddol yn ardal Ystradgynlais, lle mae cyfran y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng 10 pwynt canran ers 2011, gyda rhai wardiau, fel Ynyscedwyn, yn cofnodi gostyngiad o 11 pwynt.
"O edrych dros gyfnod hirach, mae'r gostyngiad yn fwy amlwg."
O 61% i 34%
Ychwanegodd yr adroddiad: "Mae cyfran y siaradwyr Cymraeg yn ardal Ystradgynlais wedi gostwng o 61% ym 1991 i 34% yn 2021, sy'n cynrychioli un o'r gostyngiadau mwyaf a gofnodwyd yng Nghymru dros y cyfnod hwnnw o ddeg mlynedd ar hugain.
"Mewn ymateb, ac er mwyn deall yn well y ffactorau sy'n effeithio ar ddefnydd a throsglwyddo'r iaith Gymraeg mewn cymunedau, cytunwyd i gomisiynu astudiaeth mapio ieithyddol ledled y sir, gyda ffocws manwl ar ardaloedd blaenoriaeth gan gynnwys Ystradgynlais.
"Bydd yr astudiaeth yn archwilio heriau a chyfleoedd lleol i dyfu'r iaith. Bydd hefyd yn llywio nodi camau gweithredu blaenoriaeth ar gyfer gweithgaredd hyrwyddo'r iaith Gymraeg yn y gymuned yn y dyfodol."
Cafodd yr adroddiad ei drafod yng nghyfarfod cabinet Cyngor Sir Powys ddydd Mawrth, cyn cael ei gymeradwyo gan yr aelodau.
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Chyngor Sir Powys am ymateb.
Llun gan Siambr Fasnach Ystradgynlais