Gwynedd: Dechrau ymgynghoriad ar gynllun ynni 'allweddol' rhwng Cymru a'r Alban

National Grid

Mae cwmni National Grid wedi dechrau ymgynghoriad gyda'r cyhoedd ar lwybr posib i geblau tanddaearol drwy ogledd Gwynedd fydd yn rhan o gynllun i drosglwyddo ynni glân rhwng yr Alban a Chymru a thu hwnt.

Ym mis Chwefror, fe wnaeth Newyddion S4C ddatgelu bod y cwmni wedi dechrau'r broses o archwilio tir yn ardal Caernarfon allai fod yn rhan o gynllun 'Cyswllt Gorllewinol 2'. 

Mae cam cyntaf yr ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â’r cynllun nawr wedi’i lansio, gyda chyfres o gyfarfodydd cyhoeddus wedi’u trefnu dros yr wythnosau nesaf.

Mae Cyswllt Gorllewinol 2 yn gynnig ar y cyd rhwng National Grid a Scottish Power Energy Networks (SPEN) ar gyfer 'cysylltiad trydan cerrynt uniongyrchol foltedd uchel' (HVDC) tanddwr yn bennaf rhwng yr Alban a Chymru. 

Yn ôl National Grid, byddai'r prosiect yn “atgyfnerthu'r rhwydwaith trawsgludo, gan gario trydan i'r ddau gyfeiriad a helpu i sicrhau cyflenwad ynni dibynadwy i gartrefi, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus ledled y DU.”

Yn ôl y map sydd wedi’i ddarparu gan National Grid, mae tri safle posib ar gyfer man glanio cebl tanddaearol fydd yn cludo'r trydan i'r tir mawr yn yr ardal arfordirol rhwng Aberdesach a Phontllyfni. 

Dywed y cwmni am y dair glanfa:

"Mae Lleoliad Glanfa A ger arfordir Pontllyfni ar hyd darn mwy agored a gwledig o'r arfordir rhwng Dinas Dinlle ac i'r gogledd o Aberdesach. Mae'r ardal yn cynnwys tir pori cymharol wastad y tu ôl i arglawdd isel a thraeth cul.

"Mae Lleoliad Glanfa B i'r gogledd o lan Aberdesach, lle mae'r arfordir yn trawsnewid o draeth tywodlyd a cherrig mân bas i ardaloedd o glogwyni traeth isel.

"Mae Lleoliad Glanfa C ger Clynnog Fawr (i'r de o Aberdesach) ac mae'n wynebu rhan fwy agored o arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn.

Tir amaethyddol isel yn bennaf y tu ôl i'r ymyl arfordirol yw'r ardal gyfagos."

Yn ôl y llwybr sydd wedi’i amlygu gan y cwmni, bydd y cebl yn cael ei fwydo o dan dir ger Llandwrog, ymlaen at Saron i gyffiniau Llanfaglan, Bontnewydd, Pontrug a Bethel, cyn cysylltu â’r is-orsaf ym Mhentir.

Mae'r cynllun yn cynnwys pedair elfen allweddol meddai National Grid, sef:

Llwybr cebl HVDC yn y môr o tua 260 km i leoliad ar arfordir Gwynedd ym Mae Caernarfon.

Cebl HVDC tanddaearol tua 25 km o leoliad glanio i orsaf drawsnewid newydd.

Gorsaf drawsnewid newydd o fewn 2 km i is-orsaf bresennol Pentir, gan gynnwys cysylltiad cebl tanddaearol.

Estyniad i is-orsaf bresennol Pentir a gwaith cysylltiedig i alluogi cysylltiad â'r grid.

Image
National Grid

Byddai'r cyswllt yn gallu cludo hyd at 2GW o drydan i'r naill gyfeiriad neu'r llall, digon i bweru tua dau filiwn o gartrefi.

Mae National Grid yn dweud eu bod yn “cydnabod y dylai cymunedau sy'n cynnal seilwaith weld manteision cadarnhaol a pharhaol.” 

Byddai'r prosiect yn cefnogi cadwyn gyflenwi gwerth biliynau o bunnoedd meddai'r cwmni, gan greu swyddi yng ngogledd Cymru a darparu cyfleoedd i fusnesau lleol.

Dywedodd Leandro Vacirca, Cyfarwyddwr Prosiect National Grid: “Bydd Cyswllt Gorllewinol 2 yn chwarae rhan bwysig wrth ddarparu'r seilwaith trydan sydd ei angen ar Gymru ar gyfer dyfodol ynni diogel a mwy effeithlon. 

"Wrth i'r galw dyfu, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud gwell defnydd o ffynonellau ynni adnewyddadwy trwy uwchraddio'r rhwydwaith trydan fel nad yw ynni glân yn cael ei wastraffu."

Ychwanegodd: “Rydym yn gofyn am adborth ar gynigion yn y cyfnod cynnar yma er mwyn rhoi cyfle i gymunedau a rhanddeiliaid ddylanwadu ar ein cynlluniau. Mae gwybodaeth leol yn bwysig wrth ddatblygu Cyswllt Gorllewinol 2 a bydd yn ein helpu ni i leihau effaith lle bynnag y bo modd. 

"Rydym hefyd eisiau i gymunedau lleol elwa o'r newid i ynni glanach ac adnewyddadwy trwy greu swyddi, datblygu sgiliau a chyfleoedd cadwyn gyflenwi.”

Image
Map
Mae modd clicio yma i edrych ar fap rhyngweithiol o'r cynllun

Mae nifer o gyfarfodydd cyhoeddus wedi eu trefnu fel rhan o'r ymgynghoriad. Mae rhain yn cynnwys:

Dydd Iau 25 Mehefin: Neuadd Bentref Clynnog Fawr, 7 Ffordd Llys Eben, Clynnog Fawr, Caernarfon, Gwynedd LL54 5AQ 2pm–7pm

Dydd Gwener 26 Mehefin: Neuadd Goffa Penygroes, Penygroes, Caernarfon, Gwynedd LL54 6NN 2pm–7pm

Dydd Iau 9 Gorffennaf: Menter Gymunedol Bethel, y Bedol, Bethel, Caernarfon, Gwynedd LL55 1AX 12pm–4:30pm

Dydd Gwener 10 Gorffennaf: Neuadd Bentref Rhiwlas, Bangor, Gwynedd LL57 4GA 2pm–7pm

Dydd Sadwrn 11 Gorffennaf: Y Ganolfan, Bontnewydd, Caernarfon, Gwynedd LL55 2UF 10am–1.30pm

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.