Gwres eithafol yr un mor beryglus â'r oerfel i'r digartref medd elusen
Mae elusen ddigartrefedd yng Nghymru yn rhybuddio y gall gwres eithafol fod yr un mor beryglus â'r oerfel i’r rhai sy’n cysgu ar y stryd.
Daw’r rhybudd gan elusen The Wallich wrth i rybudd coch am wres eithafol gael ei gyhoeddi ar gyfer rhannau o dde-ddwyrain Cymru ddydd Mercher a dydd Iau.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, gall y tymheredd gyrraedd hyd at 40°C mewn rhai ardaloedd yn ardal y rhybudd, gyda’r gwres eithafol yn peri risg o salwch difrifol.
Dywedodd Jamie-Lee Cole, uwch reolwr cyfathrebu elusen digartrefedd The Wallich, fod pobl sy'n profi digartrefedd ymhlith y rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf yn ystod cyfnodau o dywydd eithafol, gan eu bod yn treulio cyfnodau hir yn yr awyr agored.
"Mae pobl sy'n cysgu ar y stryd, neu'n byw mewn tai ansefydlog neu o ansawdd gwael, yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan yr argyfwng hinsawdd oherwydd eu bod fwyaf agored i dywydd eithafol," meddai wrth Newyddion S4C.
"Boed yn oerfel, glaw neu wres eithafol, nhw sy’n wynebu effeithiau gwaethaf newid hinsawdd - ac mae’r digwyddiadau hyn yn dod yn fwy cyffredin."
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod mynd i'r afael â digartrefedd a chynyddu'r cyflenwad tai ymhlith ei phrif flaenoriaethau.
Darparu gofal ar y stryd
Wrth ymateb i'r don wres, mae gweithwyr allgymorth The Wallich yn ymweld â phobl sy'n cysgu ar y stryd bob bore.
Y bwriad yw cynnig cyngor a sicrhau eu bod yn yfed digon o ddŵr, yn cael cysgod ac yn gofalu am glwyfau er mwyn lleihau'r risg o haint.
Mae'r gweithwyr hefyd yn dosbarthu weips, eli haul, hetiau a hosanau glân iddyn nhw yn ystod y cyfnod hwn.
Ychwanegodd Ms Cole fod y tywydd poeth hefyd yn gallu cynyddu'r peryglon sy'n gysylltiedig â defnyddio alcohol neu gyffuriau.
O ganlyniad, mae gweithwyr allgymorth yr elusen yn annog pobl i beidio â chymysgu sylweddau ac i edrych ar ôl ei gilydd.
Ers i'r rhybudd tywydd gael ei gyhoeddi ddydd Llun, mae rhai awdurdodau lleol - gan gynnwys Cyngor Caerdydd - wedi agor llety brys.
Ond dywedodd Ms Cole mai nifer fach o bobl ddigartref sy'n manteisio ar y ddarpariaeth.
"Yn aml, yr hyn sy'n bwysicach iddyn nhw yw cael cysgod yn ystod y dydd," meddai.
"Byddan nhw'n dod i ganolfan The Wallich, i ganolfan The Huggard ac i Lyfrgell Ganolog Caerdydd, sy'n hwb ar gyfer darpariaeth tai, er mwyn dianc rhag y gwres yn ystod rhan boethaf y dydd."
Ychwanegodd fod hyd at 30 o bobl yn cysgu ar strydoedd Caerdydd ar hyn o bryd, gyda'r niferoedd yn weddol sefydlog.
Ond rhybuddiodd fod y broblem ehangach o ddigartrefedd yn parhau ar draws y wlad.
Yn ôl yr elusen, mae mwy na 10,000 o bobl mewn llety dros dro yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda chostau byw, diffyg tai fforddiadwy a'r argyfwng iechyd meddwl ymhlith y prif ffactorau sy'n cyfrannu at y sefyllfa.
Mae Ms Cole yn annog aelodau'r cyhoedd i wylio am bobl sy'n cysgu ar y stryd yn ystod y tywydd poeth.
"Os yw rhywun yn edrych yn sâl, ac os ydych chi'n teimlo ei fod yn ddiogel i fynd atynt, gofynnwch a ydyn nhw'n iawn, a ydyn nhw angen cymorth, a ydyn nhw angen dŵr," meddai.
"Os yw rhywun yn sâl iawn, ac mae'n sefyllfa argyfwng, ffoniwch 999."
'Angen mynd at wraidd digartrefedd'
Er bod ffocws y gwaith ar hyn o bryd ar gadw pobl yn ddiogel yn ystod y tywydd poeth, dywedodd The Wallich fod angen mynd at wraidd digartrefedd.
Mae'r elusen yn dweud ei bod yn gobeithio y bydd Llywodraeth newydd Cymru yn blaenoriaethu adeiladu mwy o dai fforddiadwy, cryfhau gwasanaethau atal digartrefedd a gweithredu'r Ddeddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol.
Yn ôl Ms Cole, byddai'r mesurau'n helpu i sicrhau bod llai o bobl yn dod yn ddigartref yn y lle cyntaf, ac yn lleihau'r cylch o ddigartrefedd drwy sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cydweithio'n well i gefnogi pobl mewn perygl.
"Rydyn ni'n gwybod beth sydd angen ei wneud i fynd i'r afael â digartrefedd yng Nghymru," meddai.
"Y flaenoriaeth nawr yw bwrw ymlaen â hynny."
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ni fydd digartrefedd yn datrys ei hun.
"Mae angen i bob rhan o'r system gydweithio, ac mae Gweinidog y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi bod yn glir bod mynd i'r afael â digartrefedd a chynyddu'r cyflenwad tai ymhlith ei blaenoriaethau pennaf.
"Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd erbyn 2030 ac wedi cefnogi Deddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) 2026 yn rhagweithiol, a fydd yn symud y system yn bendant tuag at atal."
Ychwanegodd: "Gall awdurdodau lleol ddefnyddio cyllid Grant Cymorth Tai i ddarparu gwasanaethau allgymorth cadarnhaol, gan weithio'n rhagweithiol gyda phobl sy'n cysgu ar y stryd i sicrhau eu bod yn cael cynnig cymorth, cyngor a mynediad at lety - yn enwedig yn ystod cyfnodau o dywydd eithafol."