Arestio dyn wedi marwolaeth gyrrwr beic modur yn Sir Gâr
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ddydd Sul.
Bu farw gyrrwr beic modur yn y gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd am tua hanner dydd ar ffordd yr A40 rhwng Sanclêr a Hendy-gwyn.
Cafodd dyn 38 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal.
Mae wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.
Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys pedwar cerbyd, sef Audi llwyd, Seat glas, Vauxhall llwyd a beic modur KTM oren.
Bu farw gyrrwr y beic modur KTM yn y fan a'r lle o ganlyniad i'w anafiadau.
Mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Cafodd y ffordd ei chau am gyfnod ar gyfer ymchwiliad yr heddlu i'r gwrthdrawiad cyn cael ei agor yn ddiweddarach.