Cyflwyno Cadair a Choron Eisteddfod y Garreg Las
Mae Cadair a Choron Eisteddfod y Garreg Las wedi'u cyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith mewn digwyddiad arbennig yn Oriel y Parc, Tyddewi, ddydd Gwener.
Mae'r digwyddiad yn nodi dechrau wythnos o ddathliadau 850 mlwyddiant yr Eisteddfod.
Mae'r Goron wedi'i chynhyrchu gan Elen a Dylan Bowen, cwmni Gemwaith Bowen Jewellery a'r Gadair gan Tomos Lewis, cwmni Dail Pren.
Cyflwynir y Gadair gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a rhoddir y wobr ariannol o £750 gan Geraint a Siân James, perchnogion siop Awen Teifi, Aberteifi.
Cyflwynir y Goron gan deulu’r Parch WJ Gruffydd (Elerydd) a Mrs Jane Gruffydd "er cof, ac mewn gwerthfawrogiad o deyrngarwch a haelioni aelwydydd bro’r Eisteddfod yn ystod eu gweinidogaeth yn yr ardal".
Rhoddir y wobr ariannol o £750 gan bapur bro Y Cardi Bach, er cof am eu cyn-olygyddion Mrs Rhoswen Llewellyn a’r Parchedig Euros Wyn Jones.
