Dau drên wedi taro ei gilydd ger Bedford yn Lloegr

19/06/2026
Damwain Tren Bedford

Mae dau drên wedi taro ei gilydd yn ardal Bedford yn Lloegr nos Wener meddai'r heddlu.

Yn ôl adroddiadau cynnar, mae nifer o bobl wedi eu hanafu.

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Sir Bedford: "Mae'r gwasanaethau brys ar hyn o bryd yn lleoliad digwyddiad ar y rheilffordd ychydig i'r de o Bedford.

"Mae pob llinell drwy'r ardal wedi eu hatal.

"Gwiriwch eich taith cyn i chi deithio a chaniatewch ddigon o amser ychwanegol.

"Rydym yn gofyn i bobl osgoi'r ardal a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf pan allwn."

Dywedodd llefarydd ar ran Undeb y Gweithwyr Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth: “Rydym yn bryderus iawn gan adroddiadau am wrthdrawiad trên rhwng Bedford a Luton a’r anafiadau difrifol a ddioddefwyd gan staff a theithwyr ar y trên.

"Mae meddyliau’r undeb cyfan gyda’r rhai sydd wedi eu heffeithio ac rydym yn parhau i fonitro’r sefyllfa.”

Mae criwiau Tân ac Achub Sir Bedford yn y lleoliad ychydig i'r de o Bedford a gofynnodd y gwasanaeth i bobl osgoi'r ardal am y tro.

Dywedodd East Midlands Railway mai’r trenau oedd y gwasanaeth 16:40 o Corby i Lundain St Pancras a’r gwasanaeth 15:50 o Nottingham i Lundain St Pancras.

Mae Ysbyty Prifysgol Luton a Dunstable wedi gofyn i’r cyhoedd beidio â mynd i’r adran achosion brys oni bai eu bod yn wynebu argyfwng gwirioneddol.

Daw hynny wrth i staff meddygol helpu teithwyr a gafodd eu hanafu yn y gwrthdrawiad.

Dywedodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain ychydig cyn 18.45: “Rydym yn ymateb i adroddiadau am wrthdrawiad yn cynnwys dau drên yn ardal Bedford.

“Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth cyn gynted â phosib.”

Dywedodd yr aelod seneddol lleol, Mohammad Yasin, ei fod yn cydymdeimlo gyda'r rhai sydd wedi eu heffeithio.

Rhagor i ddilyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.