Disgwyl miloedd yng Nghaerdydd ar gyfer digwyddiad Pride Cymru
Mae disgwyl i filoedd ymuno â dathliad Pride Cymru yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn, pan fydd gorymdaith yn cael ei chynnal drwy'r brifddinas.
Bydd gorymdaith drwy strydoedd canol y ddinas yn cychwyn am 11:00 cyn i'r brif ŵyl gael ei chynnal yng Nghastell Caerdydd.
Eleni yw'r 27ain flwyddyn i'r digwyddiad gael ei gynnal, gyda dros 50,000 yn rhan o'r dathliadau yn 2025.
Fe gafodd pleidiau gwleidyddol eu gwahardd rhag mynychu y llynedd, ond eleni mae'r Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, wedi derbyn gwahoddiad i'r digwyddiad.
Brynhawn dydd Sadwrn, bydd y dathliadau yn symud i Gastell Caerdydd, lle bydd perfformiadau gan Kate Nash, y seren drag o Dreorci, Catrin Feelings, ac Ultrabeat yn diddanu'r dorf tan ddiwedd y noson am 22:30.
Fe fydd y digwyddiad yn parhau ddydd Sul gyda mwy o berfformwyr ar y llwyfan.
Bydd yr orymdaith ar gael i'w gwylio am ddim, tra bod angen tocyn i fynychu'r digwyddiad yn y castell.
Bydd sawl ffordd yn y brifddinas ar gau rhwng 06:00 a 00:00 wrth i'r orymdaith, sy'n 1.4 milltir o hyd, ymlwybro drwy Gaerdydd.
Fe fydd yn cychwyn am 11:00 ar Stryd Westgate ger Gwesty'r Angel.
Mae'r trefnwyr yn dweud bod disgwyl i'r orymdaith bara rhwng awr a hanner a dwy awr.
Dyma'r strydoedd sydd ar gau drwy'r dydd: Heol Caerdydd (ger cyffordd Heol Westgate), Heol Duke, Kingsway.
Bydd y strydoedd canlynol ar gau rhwng 08:00 a 14:30:
Heol Westgate, Heol Quay, Guildhall Place, Heol Golate, Heol Cowbridge i'r Dwyrain (wrth y gyffordd gyda Ffordd y Gadeirlan), Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Heol Wood, Sgwar Canolog, Heol Parc, Heol Havelock, Ffordd Scott, Mill Lane, Yr Hayes, Heol John, Heol y Frenhines, Park Place a Ffordd Greyfriars (ger y gyffordd gyda Boulevard de Nantes hyd at Kingsway).