Diswyddo plismon o Heddlu'r Gogledd am ffugio bod wrth ei gyfrifiadur

KJAM

Mae plismon gyda Heddlu Gogledd Cymru wedi cael ei ddiswyddo am gamymddwyn difrifol ar ôl iddo gael ei ddal yn ffugio bod yn gweithio ar ei gyfrifiadur am gyfnod hir tra'n gweithio o adref.

Roedd y Cwnstabl Robert Masson wedi ei gyhuddo o ddal allweddell ('keyboard') ei gyfrifiadur i lawr gyda gwrthrych rhwng mis Tachwedd 2023 a mis Medi 2025.

Mae'r arfer yn cael ei ddisgrifio fel 'keyboard jamming' yn Saesneg - pan fod rhywun yn ceisio rhoi'r argraff fod ei gyfrifiadur yn cael ei ddefnyddio drwy adael pwysau ar fotwm allweddell er nad ydynt gerllaw.

Yn dilyn gwrandawiad camymddwyn ym mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn ddydd Gwener dan arweiniad y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman, cafodd Masson ei ddiswyddo heb rybudd ar ôl i'w ymddygiad gael ei ganfod i fod yn gamymddwyn difrifol.

Yn dilyn y gwrandawiad, dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Nigel Harrison: "Mae swyddogion yr heddlu yn cael eu dal yn briodol i'r safonau uchaf o onestrwydd a chywirdeb.

"Lle na chyflawnir y safonau hynny, byddwn yn cymryd camau cadarn.

"Rhaid i'r cyhoedd fod yn hyderus bod swyddogion yn cyflawni eu dyletswyddau gyda phroffesiynoldeb bob amser.

"Yn yr achos hwn, methodd yr ymddygiad â chyflawni'r disgwyliadau hynny, a diswyddo oedd y canlyniad priodol."

 
 
 
 
 
 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.