Cymraes ifanc yn mynd o werthu crysau pêl-droed i weithio gyda chlybiau'r Uwch Gynghrair
Mae Cymraes ifanc a benderfynodd werthu crysau pêl-droed i ariannu ei haddysg prifysgol bellach yn gweithio gyda chlybiau mwyaf Uwch Gynghrair Lloegr.
Yn 18 oed, roedd Eleri Williams o Aberdâr ddim am astudio yn y brifysgol gan adael gyda dyled o ddegau o filoedd o bunnoedd.
Felly fe benderfynodd ddechrau gwerthu crysau pêl-droed er mwyn gallu ariannu ei chynllun i astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd.
Dechreuodd yn 15 oed gyda bocs o grysau pêl-droed, ac fe dyfodd ei busnes nes, yn y pen draw, roedd ganddi dros 2,000 o grysau yn llenwi ystafell wely sbâr ei rhieni.
Roedd yr hyn a ddechreuodd fel syniad yn 2023 bellach yn realiti, ac mae newydd agor siop crysau pêl-droed yng Nghaerdydd.
"Ro’n i eisiau rhoi mantais i fi fy hun," meddai wrth Newyddion S4C.
"Y nod oedd gallu gadael y brifysgol heb unrhyw ddyled, felly awgrymodd dad y dylwn i edrych i mewn i’r farchnad crysau pêl-droed."
Mae ei thad, Will, yn gasglwr crysau pêl-droed brwd, gyda chasgliad Manchester United sy'n ymestyn yn ôl dros ddegawdau.
Sefydlodd Eleri, sy'n byw gartref gyda'i rhieni yn Aberdâr, gwni BallersCP a dechreuodd werthu rhai o eitemau ei thad nad oedd eu hangen ar eBay.
"Doedd dim o fy Astudiaethau Busnes TGAU wedi gallu fy mharatoi i ar gyfer hyn," meddai.
"Aethon ni o werthu ar eBay i ddigwyddiadau mawr wyneb yn wyneb ar draws y wlad a nawr rydyn ni’n agor siop."
Mae’r farchnad crysau pêl-droed wedi tyfu’n aruthrol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda chewri’r farchnad Classic Football Shirts yn adrodd eu bod yn gwerthu tua 300,000 o grysau y flwyddyn.
Wrth i'r farchnad dyfu, mae llwyth gwaith Eleri wedi tyfu hefyd, ac mae hynny wedi arwain at iddi weithio gyda sawl clwb yn Uwch Gynghrair Lloegr.
"Ry’n ni wedi bod yn masnachu ers tair blynedd ac ar hyn o bryd mae gennyn ni stoc chwe ffigwr."
“Datblygodd y perthnasoedd hyn ar lafar, gan ddechrau pan gawson ni fanylion cyswllt dyn cit mewn clwb yn yr Uwch Gynghrair a fyddai’n anfon lluniau o grysau hyfforddi a chitiau chwaraewyr ata i yn gofyn a oedd gen i ddiddordeb yn eu prynu.”
Bellach mae Eleri wedi cyrraedd ei nod o fod mewn sefyllfa i ariannu ei hastudiaethau, wedi iddi ennill dros £30,000 yn ystod y tair blynedd diwethaf.
Fe fydd hi'n cychwyn ar ei gradd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd ym mis Medi, ac yn bwriadu parhau i redeg BallersCP drwy gydol ei hastudiaethau.
Llun: Cowshed