'Ma' rwbath angen newid': Galw am fwy o gymorth ariannol i gleifion canser a'u teuluoedd

'Ma' rwbath angen newid': Galw am fwy o gymorth ariannol i gleifion canser a'u teuluoedd

Mae teulu dyn ifanc o Fôn yn galw am fwy o gymorth ariannol i'r rhai sydd wedi eu heffeithio gan ganser. 

Fe wnaeth Shôn Blackmore o Langaffo orfod aros dros 80 diwrnod y llynedd i ddechrau triniaeth canser wedi amheuon am gam-ddiagnosis.

Cafodd Shôn ddiagnosis tybiedig o Hodgkin's lymphoma ar 3 Gorffennaf 2025, ond er hynny ni ddechreuodd ei driniaeth tan 24 Medi y flwyddyn honno. 

Mae Shôn yn fyfyriwr yn y brifysgol yn Lerpwl, a bellach yn holliach wedi iddo orfod wynebu triniaeth cemotherapi y llynedd. 

Wedi iddo dderbyn diagnosis, fe gafodd Shôn ei drosglwyddo yn ddiweddarach i Ganolfan Ganser Clatterbridge yn Lerpwl sydd ag uned arbenigol i bobl ifanc. 

Fe ddigwyddodd hyn gyda chymorth elusen Teenage Cancer Trust, sy'n gweithio'n agos gyda'r Uned Pobl Ifanc yn y ganolfan. 

Er ei fod yn ei flwyddyn gyntaf yn y brifysgol yn Lerpwl ar y pryd, roedd Shôn yn treulio cyfnodau adref ym Môn hefyd yn sgil ei iechyd.

Image
Shôn Blackmore
Fe gafodd Shôn Blackmore ddiagnosis o Hodgkin's lymphoma y llynedd.

"O’n i’n cael appointment, teithio dwy awr o leia there and back wedyn ma’n adio fyny ar gost ‘fyd, mwy neu lai yn mynd bron  bob dwy wythnos," meddai wrth Newyddion S4C.

"O’n i’n lwcus, o’n i’n y brifysgol yn Lerpwl so o’n i efo accommodation yn fan ‘na, so o’n i’n gallu aros am y triniaeth ond o’dd rhieni yn gorfod dod i ymweld â fi."

Fe gafodd Shôn sawl sgil-effaith yn dilyn ei driniaeth. 

"O’n i efo Covid, Meningitis, reactio yn ddrwg i’r chemo, o’n i pob tro yn aros overnight ag o’dd rhieni yn gorfod teithio dwy awr, talu am hotels.

"Talu am hyn, talu am hwnna, jyst i gallu rhoi’r cymorth i fi, a just frustrating bo’ ni’n gorfod gwneud hynna faint."

Image
Gwenda Blackmore
Mam Shôn, Gwenda Blackmore

Ychwanegodd mam Shôn, Gwenda Blackmore: "O’dd hi’n ofnadwy o anodd i ni fel teulu achos o’dd o mor wael ag o’dd o’n dod adra, ag o’dda ni’n goro mynd yn ôl ag ymlaen.

"Yn gyfan gwbl, nathon ni aros yna am tua pedwar mis mewn gwestai achos doedd ‘na nunlle i aros."

Yn dilyn salwch Shôn, fe wnaeth ei dad, Dave, a ffrindiau i'r teulu benderfynu gwneud her i godi arian at ddwy elusen a oedd yn hollbwysig i ofal a thriniaeth Shôn, sef Teenage Cancer Trust a Young Lives vs Cancer. 

Fe wnaeth ei dad a dau o'i ffrindiau, Marc and Martin, seiclo dros 1,000 o filltiroedd o Land's End yn ne Lloegr i John O'Groats yng ngogledd Yr Alban.

Maen nhw wedi codi dros £35,000 ar gyfer yr elusennau hyd yma, ac mae'r teulu yn gobeithio y bydd yr arian yn gallu helpu teuluoedd eraill yn y gogledd i allu cael llety pan fo angen. 

"Mae o’n drist deud y gwir achos ‘dan ni ddigon ffodus yn ariannol bo’ ni‘n gallu fforddio talu ond y rheswm ‘dan ni’n gwneud y charities ‘ma ydi i helpu pobl lleol iddyn nhw gael cyfleoedd i medru aros yna," meddai Gwenda. 

"Dwy awr y dydd, dio’m yn bosib i chi fynd a gadael eich plentyn mor sâl yn yr ysbyty."

Image
Shôn
Roedd yn rhaid i deulu Shôn deithio yn ddyddiol am gyfnod er mwyn bod gyda'u mab. 

Roedd yn rhaid i rieni Shôn, Glenda a Dave, deithio yn ddyddiol i Lerpwl a hynny am fod Shôn yn ddifrifol wael. 

Mae Shôn yn dweud fod angen rhagor o gefnogaeth i gleifion a'u teuluoedd sydd yn gorfod teithio yn bell ar gyfer triniaeth. 

"Ti jyst angen rwbath i roi cymorth i’r bobl sy’n teithio i llefydd pell, neu benefits even, o’n i’n goro disgwyl tair mis ar ôl triniaeth erbyn i fi bron gorffen jyst i  gael y cymorth yna.

"O’n i’n goro disgwyl ages jyst i  gael y cymorth ariannol, nes i golli gymaint o bres, bod allan o gwaith, talu am trafnidiaeth, talu am bwyd, talu am accommodation i fy rhieni.

"Ma’ rwbath angen newid er mwyn supportio y teuluoedd yma sy’n stryglo neu even rhoi specialist centre rhywle yn gogledd Cymru sy’n agosach i bawb."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn ystyried opsiynau i greu cronfa teithio a llety i gefnogi teuluoedd plant a phobl ifanc sy'n derbyn triniaeth ganser.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.