Cyngor Gwynedd yn hyfforddi staff i fod yn fwy pendant

Cyngor Gwynedd
Mae Cyngor Gwynedd yn chwilio am gwmni i gynnig hyfforddiant pendantrwydd ('assertiveness training') i’w staff. 
 
Mewn hysbyseb tendro ar wefan Sell2Wales Llywodraeth Cymru, dywed y cyngor fod llawer o'u staff "yn profi anhawster wrth fynegi eu barn neu osod ffiniau mewn ffordd glir, gan arwain at gamddealltwriaeth, straen neu orlwytho."
 
Mae'r cyngor hefyd wedi hysbysebu tendr arall i reolwyr ac arweinyddion tîm y cyngor ar gyfer hyfforddiant perswadio a dylanwadu.
 
Dywed yr hysbyseb ar gyfer yr hyfforddiant pendantrwydd y bydd "yn helpu i ddatblygu hyder a sgiliau cyfathrebu sy’n galluogi unigolion i ddelio â sefyllfaoedd heriol yn bwyllog ac yn barchus."
 
Gobaith yr awdurdod wrth gynnig yr hyfforddiant fyddai sicrhau "bod staff yn meddu ar y sgiliau cyfathrebu angenrheidiol i fynegi eu hunain modd proffesiynol a pharchus. 
 
"Bydd yr hyfforddiant yn cyfrannu at ddiwylliant gwaith agored ac adeiladol, yn lleihau’r potensial am wrthdaro, ac yn cefnogi llesiant staff drwy feithrin hyder a gwydnwch."
 
Gwerth y tendr ar gyfer yr hyfforddiant pendantrwydd fyddai £8000 yn ôl yr hysbyseb.
 
'Perswadio a dylanwadu'
 
Dywed yr hysbyseb ar gyfer y gwaith o ddarparu hyfforddiant perswadio a dylanwadu i'r rheolwyr fod "gallu perswadio a dylanwadu yn sgil allweddol yn y gweithle. 
 
"Mae’n galluogi unigolion i gyflwyno syniadau’n effeithiol, ennill cefnogaeth gan eraill a chyflawni canlyniadau cadarnhaol. Mae’r sgiliau hyn yn cryfhau cydweithio, helpu i adeiladu ymddiriedaeth, ac annog pobl i ystyried safbwyntiau newydd. 
 
"Trwy ddefnyddio dulliau perswadiol sy’n barchus ac yn glir, gall ein rheolwyr ac arweinyddion lywio trafodaethau, datrys problemau’n fwy effeithiol, a chyfrannu at benderfyniadau gwell. 
 
"Yn y pen draw, mae gallu dylanwadu’n gadarnhaol yn cryfhau perthnasoedd gwaith ac yn gwella effeithiolrwydd personol a thîm."
 
Gwerth y cytundeb yma yn ôl yr hysbyseb ar wefan Sell2Wales fyddai £5000.
 
Mewn ymateb, dywedodd Cyngor Gwynedd wrth Newyddion S4C fod y cyngor, fel pob sefydliad cyhoeddus "yn cynnig amrediad eang o hyfforddiant er mwyn cefnogi staff i fod yn meddu ar y sgiliau, gwybodaeth a’r dealltwriaeth i gwblhau eu rolau yn effeithiol.
 

“Mae’r teitlau Hyfforddiant Perswadio a Dylanwadu ac Hyfforddiant Pendantrwydd sydd wedi eu hysbysebu ar wefan Sell2Wales yn rhan o’r arlwy sydd yn cael eu cynnig i Staff, Arweinyddion Tîm a Rheolwyr er mwyn datblygu sgiliau i wneud eu gwaith yn effeithiol ac yn hyderus. 

"Mae’r cyrsiau yma wedi bod yn rhan o’r ddarpariaeth i staff gan Gyngor Gwynedd ers nifer o flynyddoedd ac yn gyson efo’r hyn mae llawer o sefydliadau eraill yn eu cynnig."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.