America yn dinistrio taflegrau Iran oedd yn targedu Kuwait a Bahrain
Mae'r cadoediad rhwng Iran a'r Unol Daleithiau yn parhau i fod yn fregus wrth i Iran danio taflegrau tuag at safleoedd America yn y Gwlff, gydag America yn targedu dronau a safleoedd radar Iran.
Dywedodd lluoedd yr Unol Daleithiau eu bod wedi saethu pedwar o ddronau Iran a oedd yn "peri bygythiad" i gychod yng Nghulfor Hormuz.
Mewn ymateb i hynny, fe wnaeth lluoedd America ymosod ar safleoedd radar Iran yn ne'r wlad er mwyn "amddiffyn rhag ymosodiadau pellach".
Yn ddiweddarach, fe wnaeth Iran danio taflegrau tuag at ganolfannau awyr yr Unol Daleithiau yn Kuwait, yn ogystal â chyfleusterau Llynges yr Unol Daleithiau yn Bahrain, meddai adroddiad gan asiantaeth newyddion Irib Iran.
Yn ôl asesiadau cychwynnol, cafodd chwech o'r saith o daflegrau eu dinistrio. Ni wnaeth y seithfed gyrraedd ei darged.
Daw hyn ychydig ddyddiau yn unig wedi ymosodiadau eraill rhwng y ddwy wlad sy'n bygwth y cadoediad bregus sydd mewn grym ers mis Ebrill.
Ddydd Mercher, cafodd un person ei ladd a mwy na 60 eu hanafu wedi i ddronau o Iran daro maes awyr rhyngwladol Kuwait.
Fe wnaeth Iran wadu cyfrifoldeb am yr ymosodiad ar y maes awyr, gan bwyntio'r bys at gamgymeriad gan yr Americanwyr.
Dywedodd lluoedd yr Unol Daleithiau nad oedd hyn yn wir, gan honni fod Iran wedi taro'r maes awyr mewn "ymosodiad bwriadol".