'Colled enfawr': Teyrnged teulu i'r actor Owain Rhys Davies, fu farw'n 44 oed
Mae teulu'r actor o Gaerdydd, Owain Rhys Davies, wedi rhoi teyrnged iddo ar ôl ei farwolaeth yn 44 oed.
Roedd Mr Davies wedi serennu yng nghyfresi S4C yn ogystal â sawl cyfres deledu Americanaidd, gan gynnwys Twin Peaks: The Return a chynhyrchiad Disney, Alice Through the Looking Glass.
Chwaraeodd gymeriad Agent Wilson yn Twin Peaks, y rôl y mae'n cael ei adnabod fwyaf amdani.
Ar ddechrau ei yrfa, roedd wedi chwarae cymeriadau yng nghyfresi Teulu Tŷ Crwn, Y Pris a Cowbois ac Injans ar S4C.
Roedd yr actor hefyd yn adnabyddus ym myd y theatr, ac wedi perfformio ar lwyfannau'r West End yn Llundain a'r Royal National Theatre.
Bu farw yn 44 oed ar 27 Mai, meddai ei deulu.
'Cyfeillgar a charedig'
Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei frawd Rhodri a'i dad, Conway, fod Owain wedi "effeithio ar fywydau cymaint o bobl."
"Gyda thristwch mawr, mae fy nhad a finnau yn rhannu'r newyddion bod fy mrawd, Owain, wedi marw," meddai'r teulu.
"Roedd cyfeillgarwch, cariad a charedigrwydd Owain yn eang. Mae'r negeseuon niferus rydym wedi eu derbyn dros y dyddiau diwethaf yn dystiolaeth o'r effaith y cafodd ar fywydau cymaint."
Ychwanegodd y teulu: "Roedd Owain yn ffodus iawn i gael mwy nag un teulu. Ochr yn ochr â'i deulu biolegol, roedd ganddo berthynas deuluol gyda'i ffrindiau agosaf, ei gydweithwyr a'r rhai oedd yn ei garu.
"Dwi'n hynod falch ei fod yn frawd i gymaint o bobl eraill, yn ogystal ag yn frawd i mi.
"Rydym yn gwybod y bydd ei golled yn enfawr i lawer o bobl, ac mae'n gysur gwybod faint yr oedd yn cael ei garu."

