Dyn, dynes a phlentyn wedi marw ar ôl syrthio o floc o fflatiau yn Llundain

Fflatiau Llundain

Mae dyn, dynes a phlentyn wedi marw ar ôl syrthio o floc uchel o fflatiau yn ne Llundain.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i fflatiau ar Churchyard Row, Elephant and Castle, am 07.29 ddydd Mercher, ar ôl adroddiadau bod pobl wedi syrthio o uchder, meddai Heddlu’r Met.

Fe gafodd tri o bobl - dyn, dynes a phlentyn - eu datgan yn farw yn y fan a'r lle, er gwaethaf ymdrechion staff y gwasanaethau brys i’w dadebru.

Mae’r Met yn ymchwilio, medden nhw, i asesu a oes unrhyw un o’r marwolaethau yn amheus.

Does dim adroddiadau am unrhyw anafiadau eraill.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r Met: “Mae gwaith ar y gweill i adnabod yn ffurfiol y rheiny fu farw. Mae eu perthnasau agosaf wedi cael gwybod ac maen nhw’n cael cymorth gan swyddogion arbenigol.

“Mae ditectifs yn annog unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth i ddod ymlaen drwy ffonio 101, gan ddyfynnu CAD 1613/27MAY.”

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Llundain: “Cawsom ein galw am 07.31 ddydd Mercher, 27 Mai, i adroddiadau am ddigwyddiad ar Churchyard Row, SE11.

“Fe wnaethon ni anfon nifer o adnoddau i’r lleoliad, gan gynnwys criwiau ambiwlans, parafeddyg mewn car ymateb cyflym, swyddog ymateb i ddigwyddiad a pharafeddygon o’n tîm ymateb ardal beryglus (HART). Fe wnaethon ni hefyd anfon tîm trawma mewn car o Ambiwlans Awyr Llundain.

“Cyrhaeddodd ein parafeddyg cyntaf mewn tua phedair munud.

“Yn drist iawn, er gwaethaf ymdrechion gorau ein criwiau, cafodd tri o bobl eu cyhoeddi’n farw yn y lleoliad.”

Mewn e-bost at breswylwyr, dywedodd rheolwyr yr adeilad fod yr heddlu ar y safle a’u bod nhw’n cynorthwyo’r awdurdodau.

Ychwanegodd yr e-bost: “Rydyn ni’n gwybod bod gweld y math yma o weithgarwch yn eich adeilad yn gallu peri pryder, ond roedden ni eisiau tawelu meddwl pob preswylydd bod yr adeilad yn ddiogel.

“Does dim risg i breswylwyr, ac mae popeth yn gweithredu fel arfer.”

Dywedodd preswylydd fod un o’r bobl fu farw yn ferch, gan ychwanegu: “Does neb wedi dweud dim wrthyn ni chwaith.”

Dywedodd fod llawer o fyfyrwyr rhyngwladol yn byw yn yr adeilad.

Dywedodd preswylydd arall gerllaw ei bod wedi clywed seirenau fore Mercher a bod ei gŵr wedi dod i edrych ac wedi gweld parafeddygon yn rhoi CPR.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.