Gwasanaeth tân yn cyflwyno biniau hylendid i ddynion mewn 22 o safleoedd
Gwasanaeth Tân ac Achub y Gorllewin a'r Canolbarth yw'r un cyntaf yng Nghymru i isod biniau ar gyfer dynion sydd yn defnyddio nwyddau hylendid.
Mae disgwyl y bydd un mewn wyth o ddynion yn cael cansyr y prostad, ac mae hyd at 60% sydd yn cael triniaeth i dynnu'r prostad yn dioddef gyda phroblemau wrth reoli'r angen i basio dwr.
Prin yw'r sefydliadau sydd yn darparu cyfleusterau ar gyfer dynion sydd yn cael trafferthion tebyg yn ôl ymgyrch Dispose with Dignity.
Mae Gwasanaeth Tân y Gorllewin a'r Canolbarth yn darparu biniau i waredu nwyddau hylendid mewn 22 o safloedd erbyn hyn.
Cafodd Simon Moffett o Hwlffordd, sydd yn 74 oed, broblemau wrth reoli'r awydd i basio dŵr rhai blynyddoedd nol.
Cafodd lawdriniaeth i gywiro trafferthion gyda'i brostad, ond mae'n dweud bod y cyfnod cyn y driniaeth wedi bod yn eithriadol o anodd.
"O ni'n sylweddoli fy mod i yn gollwng. Roedd yr awch i fynd i'r tŷ bach yn dod yn ofnadwy o sydyn," meddai.
"Roedd e'n anodd mynd i lefydd. Roedd e'n anodd cynllunio.
"Ar ôl sawl wythnos, roeddwn i yn gwybod ble oedd bob tŷ bach cyhoeddus yn yr ardal.
"Ges i brofiad ofnadwy ar fws yng Nghaerdydd jyst yn eistedd ar y bws ac yn sydyn sylweddoli fy mod i yn gollwng.
"A doedd dim byd i wneud a gwlychu fy nhrowsus yn gyhoeddus ac mae'n deimlad hollol uffernol.
"Sai eisiau y teimlad yna eto.
"Mae'n newid eich bywyd achos chi ddim yn gallu mynd mas i'r ffilm neu'r theatr oherwydd mae ffilm yn rhy hir.
"Chi'n gwybod bod chi methu para mor hir a hynny. Mae'n broblem ofnadwy a dw i yn teimlo dros unrhywun gyda'r broblem yma."
'Nid jôc yw e'
Erbyn hyn, mae Simon yn wirfoddolwr gydag elusen Prostate Cymru. Mae'n croesawu'r ffaith bod y gwasanaeth tân lleol wedi cyflwyno biniau ar gyfer nwyddau hylendid i ddynion
"Mae'r biniau yn syniad da ond maen nhw hefyd yn codi proffil'r broblem," meddai.
"Mae pobl yn sylweddoli falle mai nid jyst fi yw e. Mae yna biniau fan hyn, mae yna bobl eraill yn dioddef.
"Mae yna ymwybyddiaeth yn dod o'r ffaith bod biniau o gwmpas.
"Mae yna barch yn dod o gael y cyfleusterau yma. Mae yn bwysig i ehangu'r wybodaeth.
"Mae pobl yn gwneud jôc am broblemau hen ddynion ond nid jôc yw e ond mae'n symptom, yn broblem, ac yn haeddu cale ei drwsio."
'Helpu'
Mae 81% o'r 1,420 sydd yn gweithio i wasanaeth tân ac achub y gorllewin a'r canolbarth yn ddynion.
Mae'r gwasanaeth hefyd wedi cael gwobr aur am hyrwyddo problemau wrth basio dwr a chansyr y prostad.
Huw Davies yw Pennaeth Ystadau Gwasanaeth Tân ac Achub y Gorllewin a'r Canolbarth
"Roedden ni yn gweithio gyda'r cyflenwyr sydd gyda ni nawr, a doedd y gost ddim yn ddifrifol," meddai.
"Mae'n bwysig medru rhoi'r cyfleusterau yma i bobl i ddefnyddio er mwyn gwneud iddyn nhw deimlo yn gyfforddus yn y gwaith a bod e yna i helpu pobl.
"Dw i yn meddwl bod y ffaith bod e yna yn helpu nhw i wybod bod nhw'n medru bod yn gyfforddus.
"Sneb yn gweld o, ond mae o yna, a dyna sydd yn bwysig i ni."
'Stigma'
Mae dros 2,172 o fusnesau a sefydliadau ar draws y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i gynnig gwell cyfleusterau i ddynion, ac mae dros 21,000 o finiau wedi cael eu gosod ar gyfer nwyddau hylendid gan gwmni grwp phs.
Mae'r biniau yn golygu y gall dynion cael gwared ar nwyddau hylendid mewn ffordd glân a ddiffwdan.
Mae Bethan Davies yn rhan o ymgyrch Dispose with Dignity sydd yn ceisio ehangu defnydd o'r biniau.
"Mae'n rhywbeth bach mae busnesau neu sefydliadau yn medru gwneud i helpu eu gweithwyr neu eu cwsmeriaid, ac mae'n gwneud gwahaniaeth massive i ddynion sydd wedi cael cancr y prostad," meddai.
"Does neb yn gwybod os wyt ti yn gwisgo pad i helpu gyda bladder leaks ond os wyt ti yn mynd i'r tŷ bach a does dim bin yna i ti yn y cubicle a ti'n gorfod mynd a'r pad allan, yna dyna pryd mae pobl yn medru sylwi beth sydd gyda nhw yn eu llaw nhw, neu pam maen nhw yn mynd a bag gyda nhw i'r ty bach.
"Mae'r dynion yn mynd yn rili embarrassed ac maen nhw yn teimlo, wel dw i jyst ddim yn mynd i adael y tŷ, ac mae hynny yn cael effaith arall wedyn, ac mae hynny yn medru cael effaith negatif ar eich iechyd meddwl.
"Un o'r pethau ni eisiau gwneud yw cael mwy o finiau ar gyfer dynion ond hefyd codi ymwybyddiaeth a chael gwared a'r stigma, a chael pawb i siarad amdano."