'Cynnig gobaith': Menyw ifanc yn rhyddhau EP ar ôl 'dioddef cymaint' gyda phroblemau croen
Rhybudd: Fe allai cynnwys yr erthygl hon beri gofid i rai.
Mae Cymraes ifanc wedi penderfynu rhyddhau EP yn trafod ei phrofiadau o fyw gyda a gwella o TSW (Topical Steroid Withdrawal) er mwyn "cynnig gobaith i eraill."
Yn 19 oed, roedd bywyd Michaela Warne o Flaenafon wedi newid yn llwyr ar ôl i'w chroen droi'n goch ac i frechiau sych a phoenus ymddangos dros ei chorff i gyd.
Mae TSW yn gallu datblygu ar ôl i gleifion â chyflyrau croen roi’r gorau i ddefnyddio eli steroid, neu ar ôl defnydd hirdymor o eli steroid i drin cyflyrau croen megis ecsema.
Fel gyda llawer o gyflyrau croen, gall TSW amlygu ei hun yn wahanol ar wahanol liwiau croen.
Ar groen gwyn mae'n lliw coch dwys, ond ar groen du neu frown gall ymddangos fel porffor tywyll, brown, neu liw llwydaidd, sy'n aml yn ei gwneud hi hyd yn oed yn anoddach ei weld.
Roedd Michaela, sydd bellach yn 24 oed, wedi bod yn defnyddio eli steroid ers yn dair oed, ac o fewn pythefnos iddi roi'r gorau i'w ddefnyddio 16 mlynedd yn ddiweddarach, roedd ei chorff yn goch i gyd ac roedd ei golwg wedi dirywio.
"Roedd gen i bob symptom posib, dwi'n credu," meddai wrth Newyddion S4C.
"Dechreuodd popeth jyst cyn Covid, ac roeddwn i dal methu gadael y tŷ dwy flynedd ar ôl i'r cyfyngiadau ddod i ben.
"Es i i banig llwyr a doedd y cyflwr ddim yn cael ei gydnabod gan y GIG ar y pryd.
"Pan o'n i'n chwilio ar-lein roedd yn dweud bod gen i ganser y fron, ac i ferch ifanc 19 oed, roedd darllen hynny yn anodd iawn delio ag ef.
"Roeddwn i'n dioddef cymaint, mae e fel itch mor barhaus ei fod yn dy arwain di i fynd yn wallgof."
Roedd cyflwr Michaela mor wael fel mai dim ond tua un awr o gwsg y noson roedd hi’n ei chael oherwydd y boen, ac roedd hi methu gweld yn iawn gan fod ei llygaid yn chwyddo.
"Roedd darnau o fy ngwallt yn disgyn allan, roedd fy nghroen mor boenus doeddwn i ddim yn gallu gwisgo llawer o ddillad, ac roeddwn i'n newid fy nghrys tua saith gwaith y dydd oherwydd y gwaed a'r croen sych," meddai.
"Doeddwn i ddim yn gallu gweld yn iawn, nac yn gallu symud fy ngwyneb heb deimlo fel bod fy nghroen yn cracio.
"Hefyd doeddwn i ddim yn gallu bwyta heb i fy nghorff fynd i sioc, ac un awr o gwsg y noson oeddwn i'n ei chael.
"Roedd fy mam yn gorfod cysgu yn yr un gwely â fi i ddal fy nwylo fel na fyddwn i’n crafu fy nghroen."
'Rhannu profiad'
Cafodd TSW ei gydnabod yn swyddogol fel cyflwr croen ar wahân i ecsema yn 2021.
Ond mae diffyg ymchwil i'r cyflwr o hyd, sydd yn golygu nad yw rhai meddygon teulu a dermatolegwyr yn rhoi diagnosis o TSW.
Mae arbenigwyr yn credu bod TSW yn ymateb llethol i eli steroid, sydd yn cael ei gynnig i lawer o'r wyth miliwn o bobl sydd ag ecsema yn y DU.
Bellach mae TSW yn dod yn fwy amlwg o fewn maes iechyd, ac ar y cyfryngau cymdeithasol mae fideos gyda'r hashnod TSW wedi cael eu gweld dros biliwn o weithiau.
Bellach mae Michaela yn gwella o symptomau gwaethaf TSW, ac mae hi eisiau rhannu ei phrofiadau hi gan "nad oes digon" o straeon pobl sydd wedi gwella o'r cyflwr i bobl eu gweld.
Rhannodd gyngor i bobl ar YouTube ac mae wedi trafod ei phrofiadau personol hi o fyw gyda'r cyflwr.
Yn angerddol dros gerddoriaeth ac ar fin graddio mewn Perfformiad Cerddoriaeth a Recordio, roedd Michaela eisiau rhannu ei phrofiadau ar ffurf EP.
"Roeddwn i eisiau gwneud EP achos cyn TSW roeddwn i'n angerddol dros gerddoriaeth ac eisiau bod yn gantores," meddai.
"Mae TSW yn effeithio ar gymaint o bobl o bob oed. Ac roeddwn i eisiau mynd â phobl ar daith o alaru oherwydd y cyflwr a wedyn darganfod dy hun eto.
"Yn bersonol doeddwn i erioed yn credu y byddwn i'n gallu gwneud hynny."
Mae'r EP yn trafod y "pump cam" mae person yn mynd drwyddyn nhw pan fydd yn byw gyda TSW, meddai Michaela.
Y rhain yw dicter, gwadu, iselder, dechrau gwella a derbyn.
"Roeddwn i eisiau i'r EP gyfleu yn onest fy mhrofiadau a sut roeddwn i'n teimlo ar y pryd, ond hefyd rhoi rhyw fath o obaith i bobl," meddai.
"Bod rhywun yn gallu gweld fy mod i wedi gwella, ac yn byw bywyd hapus nawr.
"Dwi eisiau i bobl wybod eu bod nhw'n gallu dilyn eu breuddwydion yn y diwedd, achos dyna mae'r gymuned TSW yn ei golli.
"Does dim llawer o straeon positif lle mae pobl wedi gwella. Mae llawer o negyddiaeth a dwi'n gallu deall hynny oherwydd y boen.
"Ond dyna oeddwn i'n ei golli pan o'n i'n dioddef, pobl oedd wedi gwella er mwyn cynnig y gobaith hwnnw.
"Mae'r EP yn ymwneud â chynnig gobaith mewn gofod lle nad oes llawer o obaith i'w weld, ac os dwi'n gallu rhoi llygedyn o obaith, dwi'n meddwl y gall hynny helpu."
Bydd EP Michaela Warne, Quick Fix yn cael ei ryddhau ar bob platfform ar 18 Medi.
