Harry Wilson allan o gemau Cymru yn erbyn Ghana a Rwmania
Mae Harry Wilson allan o gemau cyfeillgar Cymru yn erbyn Ghana a Rwmania fis Mehefin.
Cyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) ddydd Gwener fod Cameron Congreve wedi cymryd lle Wilson yn y garfan.
Nid yw CBDC wedi rhoi rheswm pam nad yw Wilson bellach yn y garfan.
Nid yw amddiffynwr Abertawe, Ben Cabango, chwaith yn y garfan, gydag asgellwr West Brom, Ollie Bostock, yn cymryd ei le.
Bydd Cymru yn wynebu Ghana yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth 2 Mehefin, mewn gêm fydd yn dathlu 150 mlynedd ers sefydlu Cymdeithas Bêl-Droed Cymru.
Fe fydd y chwaraewyr yn gwisgo crys arbennig ar y noson er mwyn nodi'r pen-blwydd arbennig.
Yna fe fydd tîm Craig Bellamy yn teithio i Bucharest i wynebu Rwmania ar 5 Mehefin yn eu hail gêm gyfeillgar.
Mae Ben Davies a Connor Roberts wedi dychwelyd i garfan Cymru ar ôl iddyn nhw golli allan yn sgil anafiadau.
Mae disgwyl i Roberts chwarae dros Gymru am y tro cyntaf ers blwyddyn ar ôl treulio cyfnod hir oddi ar y cae oherwydd anaf.
