Achub plentyn ar ôl cwympo ar greigiau ger Dinbych-y-pysgod
Fe gafodd plentyn ei achub ar ôl disgyn 12 troedfedd ar greigiau wrth y môr yn Ninbych-y-pysgod ddydd Iau.
Roedd y plentyn yn cymryd rhan mewn sesiwn arfordiro, sef y broses o gerdded ar hyd creigiau wrth y môr a neidio i mewn i’r dŵr, gan adael i'r llanw gario'r person yn ôl i'r creigiau.
Cafodd y plentyn ei anafu yn ystod sesiwn arfordiro ar draeth Lydstep, gan ddisgyn tua 12 troedfedd a glanio ar ei gefn.
Fe gafodd bad achub Dinbych-y-pysgod eu galw ychydig ar ôl 16:00 ddydd Iau, a daeth criw o hyd i rieni'r plentyn yn ceisio rhoi cymorth iddo.
Dywedodd y bad achub fod y plentyn wedi brifo ei gefn, a bod hofrennydd wedi ei alw er mwyn cludo'r plentyn o'r safle.
Ond roedd pryderon na fyddai’r hofrennydd, oedd yn teithio o Gernyw, yn cyrraedd cyn i'r llanw godi i'r safle lle'r oedd y plentyn yn derbyn triniaeth.
Penderfynodd y bad achub gludo'r bachgen ar gwch, a gyda chymorth Gwylwyr y Glannau fe gafodd ei symud i'r cwch er mwyn aros am yr hofrennydd.
Fe gafodd parafeddyg ei ollwng o'r hofrennydd i'r cwch er mwyn asesu'r plentyn, ac fe gafodd ei gludo yn ôl i'r tir lle'r oedd ambiwlans yn aros amdano.
Dywedodd llefarydd ar ran Bad Achub Dinbych-y-pysgod y gallai pethau fod wedi bod yn waeth pe na bai'r plentyn wedi bod yn gwisgo helmed.
"Roedd y plentyn yn cymryd rhan mewn sesiwn arfordiro swyddogol ac yn gwisgo siwt gwlyb, cymorth arnofio ac, yn hollbwysig, yn gwisgo helmed," meddai'r llefarydd.
"Roedd hyn yn siŵr o fod wedi atal anafiadau llawer mwy difrifol.
"Pan fyddwch yn arfordiro, rydym yn argymell eich bod yn defnyddio darparwr arfordiro swyddogol cenedlaethol, gan fod y rhain yn darparu'r holl gyfarpar diogelwch a chymorth angenrheidiol."
