Roced newydd Jeff Bezos yn ffrwydro yn ystod prawf yn America

29/05/2026

Roced newydd Jeff Bezos yn ffrwydro yn ystod prawf yn America

Mae roced ddiweddaraf sylfaenydd cwmni Amazon wedi ffrwydro yn ystod prawf yn nhalaith Florida yn America.

Roedd y roced, oedd wedi ei datblygu gan y cwmni gofod Blue Origin, wedi ffrwydro yn ystod prawf ar y safle lansio hanesyddol yn ardal Cape Canaveral o'r dalaith.

Digwyddodd y ffrwydrad nos Iau yn ystod prawf “hotfire”, sef prawf lle mae peiriannau’r roced yn cael eu tanio tra bod y roced yn parhau ar y llawr lansio.

Dywedodd y cwmni, a sefydlwyd yn y flwyddyn 2000 gan sylfaenydd Amazon, Jeff Bezos, nad oedd unrhyw un wedi’i anafu yn ystod y digwyddiad.

Mewn datganiad, dywedodd Blue Origin: “Mae pob aelod o staff wedi cael eu cyfrif ac fe fyddwn yn darparu diweddariadau pellach wrth i ni ddysgu mwy.”

Roedd y roced dan sylw yn un o gyfres 'New Glenn' y cwmni, sydd wedi cael eu datblygu i gystadlu â chwmnïau gofod eraill fel SpaceX ym maes lansio lloerennau a theithiau gofod masnachol.

Disgrifiodd y cwmni’r digwyddiad fel rhywbeth oedd yn anolamedd (anomaly), term sy’n cael ei ddefnyddio’n aml yn y diwydiant gofod i gyfeirio at broblem dechnegol neu ddigwyddiad annisgwyl.

Mae lluniau o’r digwyddiad yn dangos pelen enfawr o dân yn codi uwchben y safle lansio, gyda darnau o falurion yn cael eu taflu i’r awyr.

Mae’r digwyddiad yn ergyd i raglen ofod y cwmni wrth iddynt geisio ehangu eu gweithgareddau a herio goruchafiaeth SpaceX yn y sector preifat.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.