Drôn o Rwsia yn taro bloc o fflatiau mewn gwlad sy'n aelod o NATO
Mae dau o bobl wedi’u hanafu ar ôl i ddrôn o Rwsia daro bloc o fflatiau yn Rwmania yn nwyrain Ewrop.
Yn ôl adroddiadau yn lleol, roedd y drôn o Rwsia wedi taro'r bloc o fflatiau mewn dinas yn ne-ddwyrain Rwmania, dinas sy'n agos at y ffin y wlad ag Wcráin.
Yn ôl yr awdurdodau yn Rwmania, fe darodd y drôn do adeilad preswyl deg llawr yn ninas Galați yn ystod y nos, gan achosi ffrwydrad a thân. Cafodd tua 70 o drigolion eu symud o’r adeilad fel mesur rhagofalus.
Dywed gwasanaethau brys fod menyw a phlentyn wedi dioddef mân anafiadau ac wedi cael triniaeth yn yr ysbyty. Cafodd nifer eraill gymorth ar ôl dioddef sioc a phryder yn sgil y digwyddiad.
Daw'r digwyddiad yng nghanol ton o ymosodiadau newydd gan Rwsia ar dargedau yn Wcráin. Dywedodd gweinidogaeth amddiffyn Rwmania fod y drôn wedi mynd i mewn i ofod awyr y wlad cyn cael ei olrhain gan radar milwrol. Cafodd awyrennau ymladd F-16 a hofrennydd eu hanfon i’r ardal, ond fe gwympodd y drôn cyn y gellid ei atal.
Mae Rwmania yn aelod o NATO ac o’r Undeb Ewropeaidd, ac mae’r digwyddiad wedi codi pryderon newydd ynghylch y posibilrwydd y gallai’r rhyfel yn Wcráin ymledu y tu hwnt i’r ffiniau yno.
Dywedodd gweinidog tramor Rwmania fod y digwyddiad yn “dor-cyfraith difrifol” ac yn groes i sofraniaeth y wlad.
Mae Bucharest hefyd wedi galw am gryfhau amddiffynfeydd gwrth-ddrôn ar hyd y ffin â Wcráin.
