Mynediad am ddim i bob Gwen i arddangosfa Amgueddfa Cymru

Arddangosfa Gwen John

Bydd unrhyw un sydd â Gwen yn rhan o'u henw yn cael mynediad am ddim i arddangosfa yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd.

O ddydd Gwener tan i arddangosfa yr artist o Sir Benfro, Gwen John gau yng Nghaerdydd ar 28 Mehefin, ni fydd unrhyw un â'r enw Gwen yn gorfod talu am docyn.

Dywedodd yr amgueddfa eu bod wedi penderfynu gwneud hyn er mwyn dathlu 150 mlynedd ers genedigaeth yr artist.

Fe fydd modd i unrhyw un sydd â 'Gwen' fel rhan o'u henw ymweld â'r arddangosfa, gydag ymwelwyr sydd yn bwriadu prynu tocynnau ar-lein yn gallu defnyddio'r cod GWEN150 wrth archebu tocyn.

Yn rhan o'r arddangosfa mae dros 200 o baentiadau, llyfrau a llythyrau gan Gwen John.

Mae hefyd llyfrau nodiadau am ei bywyd rhwng Cymru, Llundain a Pharis.

Dywedodd Pennaeth Arddangosfeydd Amgueddfa Cymru, Lowri Angharad Williams, fod y cynnig yn rhoi cyfle i rai gyda 'Gwen' yn eu henw weld yr "arddangosfa ryngwladol bwysig" am ddim.

"Mae Gwen wedi bod ar wefusau pawb eleni, a'i henw i'w weld ar bosteri a baneri yng Nghymru a thu hwnt," meddai.

"Pa ffordd well o ddathlu ei phen-blwydd na thrwy wahodd pawb sy'n rhannu ei henw hi i fwynhau’r arddangosfa am ddim?

"Dyma'r cyfle perffaith i bob Gwen a Gwenith, Gwenno a Gwendoline weld ein harddangosfa ryngwladol bwysig cyn iddi adael Caerdydd ar ei thaith i'r Alban a'r UDA."

'Braint'

Ychwanegodd Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru, Jane Richardson: "Mae Gwen wastad wedi bodoli yng nghysgod enwau eraill, ond nawr mae hi'n hawlio’i moment yn yr haul gydag urddas tawel sy'n nodweddiadol o'i gwaith.

"A hyd yn hyn mae'r ymateb i'r arddangosfa wedi bod yn rhyfeddol. Mae wedi taro tant gyda'n cynulleidfa, ac rydw i'n hynod falch ei bod hi wedi denu cymaint o ymwelwyr newydd.

"Mae wedi bod yn fraint rhannu ein casgliad â chymaint o wahanol bobl, wrth i'n hymwelwyr gael golwg wirioneddol ar Gwen a'i gwaith.

"Gobeithio y bydd hyn yn sbarduno mwy o bobl i gael eu hysbrydoli gan gasgliad cenedlaethol Cymru, ac rydw i'n edrych ymlaen at eu croesawu nhw i Gaerdydd a'n hamgueddfeydd ar draws Cymru."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.