Cyn-chwaraewr rygbi yn anelu am 200 marathon mewn 100 diwrnod
Cyn-chwaraewr rygbi yn anelu am 200 marathon mewn 100 diwrnod
Mae cyn-chwaraewr rygbi proffesiynol o Wynedd wedi cychwyn her o redeg 200 marathon mewn 100 o ddiwrnodau i gefnogi elusennau anafiadau i’r ymennydd.
Dros y pedwar diwrnod nesaf, bydd David Jackson, sy'n byw yn Rhosgadfan, yn rhedeg dau farathon y diwrnod yn ardal Caernarfon.
Yna bydd yn mynd ar daith i drefi a dinasoedd ar draws Lloegr, Yr Alban a Chymru dros y can diwrnod nesaf, gan orffen yn ôl yng Nghaernarfon am bum diwrnod olaf yr her ym mis Medi.
Ar ôl gyrfa lwyddiannus am 13 mlynedd fel chwaraewr rygbi proffesiynol dros Nottingham, daeth un digwyddiad ar y cae ymarfer yn 2013 â’i yrfa i ben.
Dywedodd David, a fydd yn cychwyn yr her fore Gwener, y diwrnod ar ôl ei ben-blwydd yn 44 oed: “Chwaraeais dros 300 o gemau yn ystod fy ngyrfa. ond erbyn y 13eg tymor roeddwn i wedi cael sawl cyfergyd.
"Roedd fy ymennydd wedi mynd yn eithaf bregus.”
Mewn un sesiwn hyfforddi, fe wnaeth David ddioddef ffit ar ôl gwrthdaro’n ddamweiniol ag un o’i gyd-chwaraewyr mewn sesiwn rygbi cyffwrdd.
“Cefais ffit ar y cae, felly gwaedu ychydig ar yr ymennydd, ac fe gefais fy nghludo i’r ysbyty," meddai.
'Rhyddhad'
Misoedd yn ddiweddarach, ar ôl cael cyfle i wella ac adlewyrchu, fe wnaeth David y penderfyniad anodd i ymddeol o’r gamp.
“Pan wyt ti efo anaf ar yr ymennydd, dwyt ti ddim dy hun," meddai.
"Dwyt ti ddim yn gallu rheoli dy emosiynau, dwyt ti methu meddwl yn eglur. Ti jest yn gwybod nad wyt ti’n teimlo’n iawn a bod gen ti lot o symptomau gwahanol.
“Pan nes i’r cyhoeddiad, dyna pa bryd roedd y gwellhad go iawn yn gallu dechrau oherwydd ro’n i ‘di derbyn fy mod i wedi cael anaf trawmatig ar yr ymennydd.
“Roedd o’n rhyddhad achos roedd yr arbenigwr ‘di dweud wrtha i y bysai’n beryglus iawn i mi chwarae eto – y gallai fod yn ‘fatal’ yn ei geiriau hi.
"Ond ro’n i’n teimlo rhyddhad achos ro’n i’n ofn y byswn i’n chwarae eto, er yr oeddwn yn gwybod nad oeddwn i'n iawn.”
Roedd sgil effeithiau’r anaf difrifol a’r her o ymdopi a’i fywyd newydd yn gyfnod anodd iddo ef a’i wraig, Cathy, yn ôl David
“Cefais yr anaf ryw fis ar ôl i mi a’m wraig, Cathy, brodi. Ac ar ôl mis o’n priodas, doeddwn i ddim yr un person," meddai.
"Ac fe wnaeth hi fynd a fi yn ôl i’r ysbyty ychydig o fisoedd wedyn a dweud, nid dyma’r dyn dwi ‘di priodi, mae’n rhaid i chdi neud rhywbeth.
"Dywedon nhw nad oedd unrhyw beth oedden nhw’n gallu gwneud, ac fe gawson ni ein gyrru adref.
“Dyna oedd y peth anoddaf rydym wedi gorfod dod dros gyda’n gilydd, ond fe wnaethon ni hynny gyda’n gilydd – mi ydan ni’n dîm da.”
Mae rhedeg wedi bod yn gysur i David wrth ymdopi â'i fywyd newydd, ond mae'n dal i boeni am sgil effeithiau posib yr anaf.
"Dwi yn y categori o berson sydd - oherwydd yr anaf a'r graith ar fy ymennydd - mae dementia cynnar yn rhywbeth dwi'n poeni amdano," meddai.
"Felly mae iechyd fy ymennydd yn rhywbeth sydd yn bwysig iawn i mi. Mae'n rhaid i mi gymryd ef yn hynod o ddifri. Os ddim, fe allai'r canlyniadau bod yn sylweddol, ac mae peryg y bydden nhw beth bynnag oherwydd y difrod a gafodd ei wneud.
"Mi ddechreuais redeg oherwydd bod anadlu'n dda wedi helpu gwella iechyd fy ymennydd. Mae anadlu yn y ffordd iawn yn gwella llif y gwaed ac ocsigen i'r ymennydd ac yn rheoli'r system nerfau, ac mae wedi bod yn rhan fawr o fy adferiad."
'Her sy'n fy nychryn'
Dros y 100 diwrnod nesaf, bydd David yn gobeithio rhedeg 5,243 milltir – neu 8,439 cilomedr – fel rhan o’r her mae’n ei alw’n Mission IN-possible. Mae’n bwriadu rhedeg llwybrau rhwng 5 i 10 cilomedr o hyd sawl tro, ac yn annog pobl i ymuno gydag ef am ran o’i rediadau dyddiol.
Ei nod yw codi £1 miliwn ar gyfer elusennau Headway UK a Head for Change, sydd yn cefnogi pobl sydd wedi dioddef anafiadau tebyg i’r un y cafodd yn 2013.
“Y dyddiau yma mae’n rhaid i chi wneud her sydd yn eich dychryn chi, a dwi wastad wedi credu fod y gallu gan bobl i gyflawni lot yn fwy na maen nhw’n ei gredu," meddai.
"Mae’r her yma wedi fy ngwthio i’r limit, o’r rhan pa mor ofnus ydw i, ond yn gyffrous yr un pryd.
“Mae’n fraint go iawn i allu dechrau ar her ar y diwrnod cyntaf, a gwneud rhywbeth fydd yn gofyn popeth ohonof i. Dim ond 13 mlynedd yn ôl, doeddwn i ddim yn gallu rhedeg, doeddwn i ddim yn gallu darllen llyfr oherwydd mi fysa fy mhen yn brifo gormod oherwydd yr anaf.
“Mae wedi bod yn daith hir, ond un dwi’n ddiolchgar iawn gallu ei wneud.”
