Llanelli: Symud pobl o'u tai ar ôl i 'becyn amheus' gael ei ddarganfod

16/05/2026
Long Row

Cafodd pobl eu symud o'u tai yn Felinfoel, Llanelli am gyfnod dydd Sadwrn yn dilyn adroddiadau fod "pecyn amheus" wedi cael ei ddarganfod.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod y digwyddiad yn stryd Long Row, a bod y pecyn wedi ei ddarganfod am 12:25.

Cafodd yr heddlu ynghyd â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu galw i'r lleoliad.

Roedd Long Row a Adulam Row ar gau i draffig ac fe gafodd pobl ar y ddwy stryd gais i adael eu cartrefi "fel rhagofal tra bod y pecyn yn cael ei archwilio."

Cyhoeddodd yr heddlu'n ddiweddarach nad oedd y pecyn yn amheus ac nad oedd perygl i'r cyhoedd.

Llun: Google

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.