‘Tre’ fach â sŵn mawr’: Band o’r 80au yn ailsefydlu ar gyfer gŵyl TregaRoc

‘Tre’ fach â sŵn mawr’: Band o’r 80au yn ailsefydlu ar gyfer gŵyl TregaRoc

Mae band o Dregaron wedi ail-ffurfio er mwyn cymryd rhan mewn gŵyl flynyddol yn y dref ddydd Sadwrn.

Dyw Eco Broc heb berfformio ers yr 1980au ond heddiw, fe fyddan nhw nôl ar lwyfan Tregaroc.

Sefydlwyd Tregaroc yn 2014 ac mae wedi croesawu rhai o fandiau amlycaf Cymru i strydoedd y dref yng Ngheredigion.

Eleni, bydd y cwbwl yn dechrau ar sgwâr y dref ac yn symud i Glwb Bowlio’r dref lle bydd ‘Eco Broc’ yn perfformio cyn i'r ŵyl orffen mewn pabell yng Nghlwb Rygbi Tregaron.

Cafodd Eco Broc ei sefydlu yn 1981 pan oedd aelodau’r band yn Ysgol Uwchradd Tregaron.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd David Benett, allweddellydd y band ei fod yn “gobeithio fydd popeth yn mynd yn iawn prynhawn ma".

“Sefydlwyd y grŵp nôl yn 1981 pan symudodd Justin Jones o Ysgol Crughowel i Ysgol Tregaron, fel oedd hi ar y pryd," meddai.

“Roedd Justin am sefydlu grŵp ac roedden ni gyd yn astudio celf gyda Mr Ogwyn Davies.

“Ac amser roedd Mr Davies ddim yn yr ystafell, bydden ni’n cal trafod amdano’r grŵp a ‘sgwennu ambell i gân falle.”

Ar ôl dechrau yn nisgo Ysgol Uwchradd Tregaron, bu’r grŵp yn gigio yn Felinfach, Aberaeron, Llanbed ac Aberystwyth.

“Mae’r ymarferion 'di mynd yn dda iawn, ni wedi bod yn practiso nawr ers wythnosau i drial ga’l y caneuon nôl fel o’n ni’n chwarae yn y gigs nôl yn yr 80au," meddai David Benett.

Bydd y band yn canu set o saith cân gan gynnwys ‘Pishyn’ gan Edward H. Dafis a chaneuon gwreiddiol ynghyd â’u cân newydd, ‘Y Bois Nôl yn Tregs’.

Wrth holi am ddyfodol y band, dywedodd David Bennett eu bod “wedi gweud mai hwn yw’r unig gig ni’n mynd i neud ond, buon ni’n trafod neithiwr, falle, falle, gewn ni weld beth ddigwyddith yn y dyfodol".

Image
Deina Hockenhull
Deina Hockenhull

Costau cynnal yr ŵyl

Yn ôl Deina Hockenhull sydd yn gadeirydd ar y pwyllgor sydd yn trefnu Tregaroc yn flynyddol mae’r ŵyl “wedi ffindo eleni, fel sawl gŵyl arall yng Nghymru, yn heriol yn ariannol".

“Ni’n ffodus iawn o gwmnïoedd lleol yn ein cefnogi ni, felly ni’n ffindo arian fel ‘ny, ma’r tocynnau, ni’n dibynnu ar bobl i helpu drwy brynu’r tocynnau yma er mwyn i ni sicrhau ein bod ni’n ca’l y bandiau gore’ yma,"meddai.

“Ni hefyd yn trio rhywbeth yn wahanol gyda Charden y Cardi a hynny yw, os chi’n prynu tocyn, chi’n cal 15% i ffwrdd mewn nifer o fusnesau yma yn Nhregaron."

Ychwanegodd fod “hynny yn mynd nôl i graidd pam benderfynon ni gynnal TregaRoc, hynny yw i helpu busnesau lleol yma yn Nhregaron".

“Mae TregaRoc dros y 12 mlynedd diwethaf wedi tyfu a sefydlu ei hunan fel gŵyl gerddoriaeth enfawr yma yng Nghymru bellach," meddai.

“Ma' TregaRoc yn ŵyl bach yn wahanol i'r arfer, dydyn ni ddim mewn un lleoliad, ni mewn sawl lleoliad trwy'r dref.”

Mae artistiaid sgwâr Tregaron yn dechrau perfformio am 13.00 ac yn cynnwys Ysgol Henry Richard, Morgan Elwy, Mynadd a Twm Morys a’r Ebillion.

Am 16.30 bydd Eco Broc yn cychwyn eu set yng Nghlwb Bowlio’r dref gyda Mojo a Catsgam yn dilyn.

Yn flynyddol, mae’r diwrnod yn gorffen mewn pabell ger Clwb Rygbi Tregaron o 19.00 ymlaen lle fydd Tew Tew Tenau, Dadleoli a Dros Dro yn perfformio cyn i fand 50 Shêds o Lleucu Llwyd gloi Tregaroc 2026. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.