Rhwystro 11 o eithafwyr tramor rhag cymryd rhan yn rali Tommy Robinson
Mae Llywodraeth y DU wedi rhwystro 11 o ymgyrchwyr “asgell dde eithafol” tramor rhag dod i’r DU ar gyfer rali dan arweiniad Tommy Robinson ddydd Sadwrn.
Dywedodd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer fod trefnwyr protest Unite the Kingdom yn “gwthio casineb a rhaniadau gwleidyddol”.
Fe allai mwy na 100,000 o bobl gymryd rhan yn y digwyddiad yng nghanol Llundain yn ddiweddarach.
Mae’r heddlu wedi dweud bod eu cynlluniau ar gyfer y digwydd ar raddfa “ddigynsail yn y blynyddoedd diwethaf”.
Mae gan yr Ysgrifennydd Cartref y pŵer i ganslo caniatâd person i ddod i mewn i’r DU neu i barhau yn y wlad.
Ymhlith yr unigolion asgell dde sydd wedi honni eu bod wedi cael eu gwahardd mae:
- Y gwleidydd o Wlad Pwyl Dominik Tarczynski
- Y gwleidydd a’r sylwebydd o Wlad Belg Filip Dewinter
- Y dylanwadwr gwrth-Islamaidd Valentina Gomez
- Y sylwebydd o’r Unol Daleithiau Joey Mannarino
- Yr ymgyrchydd gwrth-fewnfudo o’r Iseldiroedd Eva Vlaardingerbroek
- Y podledwr o’r Unol Daleithiau Don Keith.
Wrth iddo ymweld ag ystafell weithrediadau Heddlu’r Met ddydd Gwener, dywedodd y Prif Weinidog ei fod “mewn brwydr dros enaid y wlad hon”.
“Mae gorymdaith Unite the Kingdom y penwythnos hwn yn ein hatgoffa’n glir o’r hyn yn union rydym yn ei wynebu. Mae ei threfnwyr yn annog casineb a rhaniadau gwleidyddol.
“Byddwn yn rhwystro’r rhai sy’n dod i’r DU sy’n ceisio annog casineb a thrais. I unrhyw un sy’n ceisio achosi anhrefn ar ein strydoedd, neu ddychryn neu fygwth unrhyw un, gallwch ddisgwyl wynebu grym llawn y gyfraith.
“Bydd fy Llywodraeth i bob amser yn hyrwyddo protest heddychlon ond bydd yn gweithredu’n bendant yn erbyn casineb.
“Mae gennym ni i gyd gyfrifoldeb i godi llais yn erbyn y rhai sy’n lleisio safbwyntiau ffiaidd a rhanedig ble bynnag y gwelwn ni hynny."
Ychwanegodd: “Rydym yn wlad sydd wedi ei hadeiladu ar wedduster, tegwch a pharch, ar ein gorau pan mae pobl o gefndiroedd gwahanol yn dod at ei gilydd gydag un nod.
“Dyna beth mae’n rhaid i ni frwydro drosto.”
Mae rali dydd Sadwrn wedi ei threfnu gan Stephen Yaxley-Lennon, sy’n defnyddio'r enw Tommy Robinson.
Mae cyfyngiadau llym wedi eu rhoi ar waith mewn ymgais i gadw rali Unite the Kingdom a rali Dydd Nakba o blaid Palestina ar wahân.
Mae pryderon ychwanegol y bydd rhai cefnogwyr pêl-droed yn mynd yn syth o rownd derfynol Cwpan FA rhwng Chelsea a Manchester City yn Stadiwm Wembley i ddigwyddiad Tommy Robinson.
Bydd technoleg adnabod wynebau byw hefyd yn cael ei defnyddio am y tro cyntaf mewn protest.
Dywedodd Downing Street y gall y rhai sy’n torri’r rheolau ddisgwyl “wynebu grym llawn y gyfraith”.
Dywedodd llefarydd ar ran Rhif 10: “Y peth cyntaf i’w ddweud yw ein bod yn deall bod nifer o bobl sy’n parchu’r gyfraith yn bwriadu dod allan i brotestio’n heddychlon y penwythnos hwn, ac i’r bobl hynny rydym yn addo y byddwn bob amser yn sefyll dros eich hawl i brotestio a dros ryddid i lefaru.
“Ond gyda’r rhyddid hwnnw daw cyfrifoldeb i ymddwyn gyda gwedduster a pharch, ac i unrhyw un sy’n ceisio torri’r gyfraith a chreu anhrefn, gallan nhw ddisgwyl teimlo grym llawn y gyfraith.”