Teulu o Fôn yn codi arian er cof am eu mab a fu farw o gyflwr ar ei galon

Mabon Gwyn

Mae teulu o Ynys Môn wedi codi £3,000 ar ôl cwblhau taith gerdded elusennol i gopa’r Wyddfa er cof am eu mab ifanc a fu farw bron i dair blynedd yn ôl.

Bu farw Mabon Gwyn, a oedd yn bedair oed, ym mis Rhagfyr 2023 yn dilyn "brwydr hir a dewr" gyda chyflwr ar ei galon.

Ar 9 Mai, fe wnaeth y teulu a'u ffrindiau gerdded i gopa'r Wyddfa i nodi'r diwrnod y cafodd Mabon ei drydedd llawdriniaeth agored ar y galon yn 2023.

Dywedodd ei fam, Gemma Hartless, sy'n byw ym Mryngwran, fod y dyddiad yn un fydd "yn aros gyda ni am byth".

"Dyna oedd y diwrnod newidiodd ein bywydau’n llwyr," meddai.

"Hwn oedd y tro olaf i ni weld Mabon fel ei hun - heb wifrau, tiwbiau na pheiriannau.

"Y tro olaf i ni ei ddal a’i gofleidio’n iawn tra ei fod yn fyw."

Image
Mabon a'i fam, Gemma
Mabon a'i fam, Gemma

Roedd Mabon wedi treulio'r rhan fwyaf o'r cyfnod yn dilyn y llawdriniaeth mewn uned gofal dwys. 

Yn ystod y cyfnod hwnnw, datblygodd sepsis ar ôl i dwll ffurfio yn ei goluddyn, gan arwain at lawdriniaeth arall a stoma.

Cafodd hefyd gymhlethdodau iechyd difrifol eraill a wnaeth arwain at lawdriniaeth agored arall ar y galon ym mis Tachwedd 2023.

'Cryfder a dewrder anhygoel'

Er gwaethaf yr heriau, dywedodd ei deulu fod Mabon wedi dangos "cryfder a dewrder anhygoel".

"Hyd yn oed yn ystod rhai o’r adegau anoddaf, roedd yn dal i wenu ac yn chwerthin," meddai. "Ef oedd y bachgen bach mwyaf dewr a chryf."

Yn dilyn ei farwolaeth, sefydlodd y teulu’r elusen Mighty Mabon’s Legacy i gefnogi teuluoedd eraill sydd wedi'u heffeithio gan gyflyrau ar y galon ar draws Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr.

Image
Elsi a Mabon
Elsi gyda'i brawd Mabon

Mae’r elusen yn darparu pecynnau gofal a thalebau Costa i deuluoedd y mae eu plant yn cael llawdriniaethau ar y galon yn Ysbyty Alder Hey, gan hefyd gyflenwi adnoddau ac offer i’r uned gofal dwys pediatrig a Ward 1C yn yr ysbyty. 

Mae’r elusen hefyd yn cefnogi ward plant Ysbyty Gwynedd.

Yn ogystal â darparu cymorth ymarferol, mae’r teulu’n awyddus i godi ymwybyddiaeth o glefyd cynhenid y galon (congenital heart disease) a’r effaith gydol oes y gall ei gael ar deuluoedd.

Yn ystod Mis y Galon bob blwyddyn, mae’r elusen yn trefnu diwrnod hwyl ac yn annog ysgolion i wisgo coch er mwyn codi ymwybyddiaeth.

Image
Taith gerdded er cof am Mabon Gwyn
Y criw ar gopa'r Wyddfa 

Dywedodd Gemma fod cael cefnogaeth gan ddau deulu arall sydd wedi'u heffeithio gan gyflyrau ar y galon wedi gwneud y digwyddiad yn "fwy arbennig fyth".

"Rydym mor ddiolchgar i bawb sydd wedi ein cefnogi, wedi cofio Mabon ac wedi helpu ni i barhau â’i etifeddiaeth," meddai.

"Mae ei gryfder, ei ddewrder a’i wên hardd yn parhau i ysbrydoli popeth rydym yn ei wneud."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.