Rhun ap Iorwerth ‘yn gobeithio’ cael ei ethol yn Brif Weinidog ddydd Mawrth

Rhun ap Iorwerth

Mae Rhun ap Iorwerth wedi dweud ei fod yn gobeithio y bydd y Senedd yn ei ethol yn Brif Weinidog ddydd Mawrth.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru ei fod yn awyddus iawn i ddechrau arwain llywodraeth nesaf Cymru.

Mae angen i’r Senedd ethol Llywydd newydd yn gyntaf, wrth i Elin Jones ildio’r swydd honno ar ôl degawd yn y gadair, ac yna’r Prif Weinidog.

“Rydyn ni’n barod i fynd mor fuan â phosib,” meddai Rhun ap Iorwerth wrth raglen Sunday Supplement. “Rydyn ni’n gobeithio y bydd hi ddydd Mawrth.

“Os oes yna reswm dros oedi, ni fydd am amser hir, ac yn sicr dydd Mawrth yw’r hyn y bydden ni’n hoffi ei weld.”

Dywedodd Rhun ap Iorwerth ddydd Sadwrn y bydd Plaid Cymru yn ceisio ffurfio llywodraeth leiafrifol yng Nghymru.

Mae’r blaid wedi ennill 43 o seddi, gan olygu mai hi yw’r blaid fwyaf, ond nid yw wedi sicrhau mwyafrif, sef 49 o seddi.

Cafodd Reform UK 34 o seddi, gyda Llafur Cymru yn drydydd â naw, y Ceidwadwyr Cymreig â saith, y Blaid Werdd â dwy, a’r Democratiaid Rhyddfrydol ag un.

Mae’r canlyniad yn golygu y bydd rhaid i Blaid Cymru drafod gyda phleidiau eraill er mwyn ennill pleidleisiau yn y Senedd, gan gynnwys wrth ethol Prif Weinidog.

Mae Llafur Cymru eisoes wedi awgrymu bod y blaid yn bwriadu ymatal yn pleidlais y Prif Weinidog.

Mewn araith ar risiau Senedd Cymru ddydd Sadwrn, dywedodd arweinydd Plaid Cymru bod Cymru yn cael “ddechrau newydd” a dywedodd na all unrhyw Brif Weinidog yn Llywodraeth y DU “wthio Cymru i’r cyrion na throi llygad dall at ein hanghenion”.

Dywedodd Mr ap Iorwerth wrth ohebwyr ei fod “wedi ei gwneud yn glir mai fy nymuniad i, pe byddem ni’n gallu, fyddai ffurfio llywodraeth leiafrifol” yn ystod yr ymgyrch etholiadol.

Ychwanegodd ei bod yn “glir nawr ein bod ni yn y sefyllfa honno”.

'Tywys'

Dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn gobeithio gweithio gyda Llwydodraeth y DU yn San Steffan er mwyn dod a rhagor o rymoedd i Gymru.

Dywedodd mai’r mater o sut oedd Cymru yn cael ei hariannu fyddai y “brif frwydr”.

“Rwy'n credu bod pobl Cymru wedi siarad yn glir iawn, iawn ynglŷn â'r ffaith a ydym yn bwrw ymlaen â'r trafodaethau mewn ffordd wahanol iawn i'r sefyllfa a oedd gennym gyda'r ddwy lywodraeth Lafur flaenorol,” meddai.

“Gall Lafur fynd mewn un o ddwy ffordd. Nawr, ar lefel y DU, gallant benderfynu cosbi Cymru oherwydd bod Cymru wedi troi ei chefn ar Lafur, a dweud, iawn, dydych chi ddim yn cael dim byd nawr.

“Yn yr achos hwnnw, mae'n anodd gweld Llafur hyd yn oed yn dod yn ôl mewn unrhyw ffordd i unrhyw beth tebyg i'r sefyllfa yr oedden nhw ynddi yng ngwleidyddiaeth Cymru o'r blaen.

“Neu maen nhw'n cydnabod bod yn rhaid i'r difaterwch a ddangoswyd gan arweinyddiaeth llafur y DU tuag at Gymru ddod i ben. 

“Byddaf yn tywys Prif Weinidog nesaf y DU, pwy bynnag fydd hwnnw, i ddechrau edrych ar Gymru mewn ffordd wahanol.”
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.